Marc Brown

Cyn dechrau ar fy antur ym myd busnes, cwblheais Radd Busnes a Gradd Meistr mewn Marchnata, gan ragori yn y ddwy, er mwyn gosod y sylfeini ar gyfer oes o greu cyfleoedd a llenwi bylchau yn y farchnad. Ar ôl cyfrannu at sawl prosiect a grwpiau ymgynghorol drwy gydol fy nghyfnod fel myfyriwr, roedd cychwyn arni’n syth ar ôl graddio yn ddechrau delfrydol yn y byd mawr.

Mae cyfoeth o gymwysterau a chyflawniadau academaidd yn fy helpu i redeg fy micro-brand, Sporting Hares, o ddydd i ddydd. Mae’r cwmni wedi tyfu o syniad a gefais tra roeddwn yn cerdded yng nghefn gwlad a bellach mae ganddo bortffolio arobryn o gynhyrchion ffordd o fyw o ansawdd uchel. Fel y sawl tu ôl i'r ysgyfarnogod, rydw i’n rhedeg y cwmni gan ddefnyddio’r profiadau rydw i wedi’u dysgu fy hun, patrymau ffordd o fyw anturus ac, yn bwysig, dull gweithredu syml a di-lol.

Trwy gymysgedd cyfoethog o entrepreneuriaeth ddiflino a rhwydweithio cymdeithasol difyr, rydw i’n gallu mwynhau cwrdd ag, ac, yn bwysicach, cysylltu ag ystod eang o bobl, busnesau a phrosiectau cyffrous. Yn unol â phrosiect ‘Local Hares' Sporting Hares sy’n cefnogi a hyrwyddo busnesau, prosiectau a phobl leol, bydd mentora’n cyd-fynd yn berffaith â nodau ac amcanion fy mrand a fi fy hun, ac yn eu hategu hefyd. Fel cynghorydd ar fyrddau nifer o glybiau chwaraeon, rydw i’n edrych ymlaen at y cyfle i ddefnyddio mentora er mwyn cynghori doniau busnes lleol tra'n ychwanegu at fy rhwydwaith o weithwyr proffesiynol.

Gair i Gall

"Peidiwch â gorffwys ar eich rhwyfau. Anelwch yn uwch. Yn uwch o lawer!"

Marc Brown
  • Enw
    Marc Brown
  • Rôl
    Sefydlydd
  • Lleoliad
    Powys