Marc Peter Morris
Perchennog tri busnes ac yn ymwneud ag eraill mewn ffordd ragweithiol, casglwr gwaith celf trefol, tad i ddau siaradwr Sbaeneg newydd, bocsiwr brwd a rhan o dîm o bobl sydd wedi codi £32m ar gyfer elusen, drwy ddigwyddiadau chwaraeon. Dechreuais fy ngyrfa yn gweithio ym maes Manwerthu lle roeddwn yn ffodus i dderbyn lefel uchel o hyfforddiant gwasanaeth cwsmer. Wedi hyn es ymlaen i'r byd adeiladu gan gymhwyso fel gosodwr brics, ac yna lletygarwch lle rwyf wedi trefnu nifer fawr o ddigwyddiadau cerddoriaeth a chwaraeon mawr.
Mae'r daith hon wedi rhoi'r cyfle i mi ddysgu detholiad o sgiliau allweddol sydd wedi fy ngalluogi ers hynny i sefydlu fy musnesau fy hun mewn B2B, digwyddiadau a lletygarwch a datblygu eiddo. Y prif feysydd lle rwy'n hyderus y gallaf helpu a darparu arweiniad yw camau twf cychwynnol B2B a B2C.
Cyfathrebu wyneb-yn-wyneb a digidol, cynllunio strategol a thwf, cyflymu effeithlonrwydd, copi a chefnogaeth cyn ac wedi gwerthiant, marchnata cyfryngau cymdeithasol a digidol. Cyllidebu a rhagweld. Datblygiad proffesiynol a phersonol. Roedd pob un o fy musnesau yn arfer bod yn fusnesau newydd, gan ddechrau fel busnes un dyn a datblygu i fod yn gwmnïau gyda gwerth portffolio cyfun o dros saith ffigwr.
Y realiti yw, pan mae'n dod i fod yn berchen ac yn rhedeg busnes bach, y byddwch yn syml iawn angen help rywbryd ac rwy'n falch o ddweud fy mod wir yn edrych ymlaen at helpu cymaint o bobl â phosib i dyfu eu busnesau.
-
EnwMarc Peter Morris
-
Enw'r busnesMPM Wristbands Ltd
-
RôlRheolwr gyfarwyddwr
-
LleoliadAbertawe