Marina Kogan

Dechreuodd gyrfa gynnar Marina Kogan fel athro ieithoedd - yn yr Academi Economeg Genedlaethol yn Irkutsk, Ffederasiwn Rwsia ac fel cyfieithydd arbenigol ar gyfer Sefydliad Gwyddonol Magnetedd y Ddaear, Ïonosffer a Dosbarthiad Meysydd Magnetig yn Siberia.

Datblygu Marina ei gyrfa pan symudodd i'r DU i gynnwys cyflwyno llu o fentrau blaengar gyda sefydliadau addysgol, mentrau ym Mhrydain a Rwsia a busnesau. Mae Marina yn Rheolwr Marchnata â chymwysterau proffesiynol ac mae wedi gweithio mewn swyddi lefel uchel fel Rheolwr Marchnata Rhyngwladol, pan lwyddodd i weld cyfleoedd busnes newydd a datblygu cyrsiau rheoli, twristiaeth fusnes, EFL llwyddiannus ac adeiladu rhwydwaith busnes cadarn gyda'r cwmnïau diwydiannol a sefydliadau addysgol yn y DU a Dwyrain Ewrop.

Gan adeiladu ar ei phrofiad nododd Marina bwysigrwydd hyfforddi mewn amgylchedd busnes ac felly daeth yn hyfforddwr, anogwr ac ymarferydd NLP cymwysedig, wedi'i hachredu gan yr Academi Hyfforddi. Mae Marina’n defnyddio ei 20 mlynedd o brofiad o weithio gyda phobl ifanc mewn gwahanol amgylcheddau, a 15 mlynedd a mwy o brofiad yn y byd busnes rhyngwladol i gynhyrchu canlyniadau hyfforddi pendant gwerthfawr.

Nod rhaglenni Kogan Coaching yw rhoi’r gallu, y ffocws a’r cymhelliant sydd eu hangen ar gleientiaid i gyflawni eu nodau personol a phroffesiynol. Mae dull treiddgar Marina yn ceisio darganfod ‘athrylith fewnol’ ei chleientiaid hyfforddi. Mae’n gwneud hyn drwy ddefnyddio amrywiaeth o fodelau a thechnegau. Mae Marina’n arbenigwr ar hyfforddiant 'hunaniaeth', mae hyn yn agwedd hanfodol ar wybod pwy ydych chi a beth rydych chi eisiau ei gyflawni mewn bywyd neu sut rydych chi am i’ch busnes ddatblygu.

Gyda'i dau gydweithiwr, mae Marina wedi creu model Salutogenic hyfforddi newydd sydd wedi cael ei gyhoeddi yn yr International Journal of Evidence Based Coaching and Mentoring ac mae hi'n ei ddefnyddio yn ei gwaith hyfforddi a mentora.

Mae Marina wedi datblygu cyfres o weithdai sy'n ymdrin â materion pwysig Datblygu Sefydliadol, Mynd Trwy Newid, Datblygu Gwydnwch a Chaledi Meddyliol, Rheoli Straen, Magu Hyder, gyda phob cyfranogwr yn datblygu cynllun gweithredu personol erbyn diwedd y gweithdy.

Mae Marina bellach yn gweithio gyda chleientiaid o bob cwr o’r byd, o dde Ffrainc, i Rwsia a'r DU.

Gair i Gall

"Cofiwch gadw’r ffydd. Defnyddiwch eich hud i roi pethau ar waith...peidiwch â rhoi’r gorau iddi, daliwch ati gyda’ch nod ystyrlon, o’r galon... ac fe lwyddwch!"

Marina Kogan
  • Enw
    Marina Kogan
  • Rôl
    Cyfarwyddwr
  • Lleoliad
    Conwy