Mark Watts

Mae fy nghefndir yn gryf yn y sector bancio masnachol, gan i mi dreulio 16 mlynedd yn gweithio gyda HSBC. Fel rheolwr cysylltiadau masnachol roeddwn yn gweithio â busnesau bach a chanolig (SME) yn Ne Cymru ac yn eu cefnogi drwy ariannu eu twf.

Roedd y portffolio yn ‘sector agnostig’, sy’n golygu fod gen i wybodaeth eang am fusnesau o bob sector, o ofal iechyd i weithgynhyrchu, gwestai a bwytai, a masnachfreintiau.

Fel cyd-sylfaenydd EST Commercial Finance gwelsom gyfle i gynorthwyo busnesau bach a chanolig i ddeall cyllid a pha mor bwysig ydi o mewn busnes. Rydym yn gweithio gyda busnesau bach a chanolig o bob sector i’w cynorthwyo nhw i baratoi i fuddsoddi ac i roi arweiniad iddynt ar y strwythur mwyaf addas ar gyfer unrhyw gyllid.

Wedi gweithio mewn amgylchedd corfforaethol mawr ac yn SME ein hunain yn awr, rydym mewn sefyllfa unigryw i gynnig trosolwg cadarn o theori ac ochr ymarferol tyfu busnes, ac yn deall yr effeithiau y gall gwneud mân benderfyniadau eu cael, ac yn fwy difrifol, effaith peidio gwneud penderfyniad.

 

Gair i Gall

No business has ever succeeded without a lot of hard work.  Surround yourself with good people and focus on the things you can actually change.

Mark Watts
Male Silhouette
  • Enw
    Mark Watts
  • Enw'r busnes
    EST Commercial Finance
  • Rôl
    Director
  • Lleoliad
    Llantrisant