Marty McCudden

Yn hanu o'r Alban, astudiais yn Ysgol Fusnes Strathclyde gan ennill rhagoriaeth mewn Gradd Meistr Cyllid. Bûm yn astudio ym Mhrifysgol Strathclyde hefyd gan dderbyn gradd dosbarth cyntaf mewn Economeg gyda Marchnata.

Ar ôl symud i ogledd Cymru, rydw i’n gyfrifol ar hyn o bryd am gwmpas y sector defnyddwyr mewn is-sectorau credyd o radd buddsoddi ledled Ewrop yn cynnwys bwyd a diod, nwyddau diwydiannol a gwasanaethau a manwerthu. Mae’r gwaith yn golygu chwilio am rôl syniadau masnach sy’n cynhyrchu alffa ar gyfer ystod eang o bortffolios yn ogystal â masnachau gwerth cymharol. Mae pob syniad masnach yn cael ei deilwra ar gyfer portffolios penodol tyn ôl goddefgarwch risg, cyfyngiadau mandad ac amcanion buddsoddi. Mae hefyd yn cynnwys bondiau arian parod a chyfnewid diffygdalu. Cynhyrchu syniadau cyfnewid diffygdalu credyd yn canolbwyntio ar gyfnewid parau hir / byr sy’n niwtral o ran y farchnad, gan gynnig budd sylweddol am gost isel.

Rydw i hefyd yn cyflwyno adroddiadau misol ar safbwyntiau’r sector, gan nodi themâu a thueddiadau macro allweddol cyn dadansoddi safbwyntiau allweddol o'r gwaelod i fyny a nodi cyfleoedd masnachu. Rydw i’n cyfrannu at gyfarfodydd misol ar strategaethau buddsoddi trwy fynegi barn ar ddatblygiadau yn y farchnad, ysgogwyr, prisiadau a safle portffolios.

Cyn hyn, roeddwn i’n gweithio yn Efrog Newydd ac yn gyfrifol am sectorau defnyddwyr a diwydiannol yr Unol Daleithiau. Roedd fy nghyfrifoldebau yn y sector defnyddwyr yn cynnwys moduron a chydrannau, bwyd a diod, gofal iechyd, nwyddau cartref a moethus, manwerthu, gwasanaethau a thybaco. Roedd cwmpas y sector diwydiannol yn cynnwys ynni a nwyddau cyfalaf.

Rydw i wedi creu a rhedeg practisau gwasanaethau ariannol ac wedi darparu cynhyrchion diogelu uniongyrchol i gwsmeriaid ar-lein dros yr ugain mlynedd diwethaf. Rydw i hefyd wedi gweithio i nifer o gwmnïau yswiriant a nifer o fanciau’r DU a rhai rhyngwladol. Yn ystod yr holl amser hwn roeddwn i hefyd yn bennaeth ar sgwadron Gweithredwyr Petrolewm ym Myddin Wrth Gefn Prydain.

Mae gen i nifer o gymwysterau mewn gwasanaethau ariannol yn ogystal â disgyblaethau peirianneg filwrol. Rydw i hefyd yn meddu ar statws siartredig mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth gyda Sefydliad City & Guilds Llundain.

Gair i Gall

"Os ydych chi’n meddwl eich bod chi’n gallu....... neu ddim yn gallu...... debyg iawn eich bod chi’n gywir!"

Marty McCudden
  • Enw
    Marty McCudden
  • Rôl
    Ymgynghorydd Ariannol
  • Lleoliad
    Conwy