Martyn Keith Postle

Mae Martyn yn uwch gyfarwyddwr sydd wedi gweithio o fewn ac ar gyfer y sector gwyddor bywyd ers dros 40 mlynedd. Mae’n adnabyddus yn y diwydiant ac mae ganddo rwydwaith helaeth o uwch gysylltiadau yn yr UDA, Ewrop, Asia a’r Dwyrain Canol. Mae ganddo hanes sefydledig o adeiladu busnesau llwyddiannus o’r dechrau, yn rhannol trwy ddenu ac ysgogi pobl dalentog.

Ar hyn o bryd mae’n Gadeirydd Gofal Iechyd a Bio-dechnoleg Caergrawnt, ac yn ddarlithydd gwadd achlysurol ym Mhrifysgol Caergrawnt a Choleg Prifysgol Llundain. Mae hefyd yn Gymrawd i’r Gymdeithas Frenhinol Bioleg ac yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau.

Arbenigeddau: Mae Martyn wedi cynghori dros 100 o wahanol gwmnïau gwyddor bywyd mewn ystod eang o brosiectau gan gynnwys prosiectau uno, caffaeliadau, diwydrwydd dyladwy, trwyddedu, marchnata, chwilio gweithredol, cymorth ymgyfreitha a busnes cyffredinol.

Gair i Gall

Mae gwneud camgymeriadau yn rhan allweddol o greu rhywbeth newydd, ond dim ond os ydych yn dysgu ohonynt. Fodd bynnag, mae’n rhatach ac yn haws dysgu o gamgymeriadau rhywun arall na gorfod gwneud yr un rhai eich hun.

Martyn Keith Postle
Martyn
  • Enw
    Martyn Keith Postle
  • Enw'r busnes
    Cambridge Healthcare & Biotech
  • Rôl
    Cadeirydd
  • Lleoliad
    Cambridgeshire