Matt Bennett

Matt Bennett
Daw â phrofiad helaeth mewn arwain trawsnewid sefydliadol cymhleth, gyda phwyslais ar yrru
rhagoriaeth weithredol a rheoli drwy amgylchiadau heriol. Mae ei arbenigedd yn cwmpasu adeiladu timau mewn sefyllfaoedd lle mae llawer o bwysau, sy'n seiliedig ar ymrwymiad i dwf diwylliannol a strategol.

Crynodeb Proffesiynol:
- Arwain a Rheoli: Ymdrechion wedi'u cyfeirio at symleiddio gweithrediadau o fewn gwasanaethau peirianneg cymhleth. Wedi bod yn eiriol dros symudiad tuag at effeithlonrwydd a phenderfyniadau yn seiliedig ar ddata, ochr yn ochr gyda meithrin amgylchedd lle mae parch tuag at eraill.

- Stiwardiaeth Ariannol: Heriau ariannol wedi eu trin yn fedrus, rheoli proses ymddatodiad gyda ffocws clir ar leihau traweffaith. Roedd yr ymdrechion yn ystod y cyfnod caled hwn wedi'u hanelu at sicrhau'r canlyniad gorau posib o dan amodau anodd.

- Gwelliannau Gweithredol: Bod yn bencampwr diweddariadau isadeiledd gwerth miliynau o bunnoedd, gan ehangu capasiti gweithrediadol yn uniongyrchol. Arwain prosiectau gwerth uchel a'u dwyn i fwcwl, gan ddangos gwytnwch wrth ddatrys anghydfod a rheoli prosiectau strategol.

-Ymateb mewn Argyfwng: Llunio strategaethau a'u rhoi ar waith er mwyn diogelu parhad a lles staff yn ystod digwyddiadau argyfwng, yn benodol COVID-19. Rheoli trawsnewid ac ailstrwythuro gan ganolbwyntio ar gynnal gweithrediadau a diogelu swyddi.


- Rolau Cynghori: 
Trawsnewid o rolau arweinyddiaeth sy'n cynghori i rolau gweithredol, gan gyfrannu'n sylweddol tuag at welliannau strategol a gwelliannau mewn llywodraethiant. Mae'r mentora a'r arweiniad a roddwyd yn adlewyrchu cyfoeth o brofiad sydd o fudd i sefydliadau ac unigolion.
Y tu allan i Fywyd Proffesiynol:

Mae fy niddordeb mewn teithiau antur, gweithgareddau awyr agored, a datblygiad personol yn dangos fy agwedd tuag at fywyd: cofleidio heriau gyda gwytnwch ac ymrwymiad i dyfu. Mae fy niddordebau amrywiol, o fynydda i bysgota â phlu, yn arddangos ysbryd anturus a dysgu parhaus.

O fewn arweinyddiaeth, rwy'n cael fy ngyrru gan athroniaeth sy'n gweld gwerth mewn pobl a diwylliant fel rhan ganolog o unrhyw lwyddiant sefydliadol. Mae fy mhrofiadau, yn arbennig felly yn ystod cyfnodau anodd megis ymddatod busnes, yn amlygu dull pragmatig tuag at wneud y gorau o sefyllfaoedd heriol, gyda phersbectif sydd bob amser yn edrych tuag ymlaen.
 

Gair i Gall

Mae diwylliant yn bwyta strategaeth ar gyfer busnes felly cyfathrebwch yn eglur bob amser, ac os oes unrhyw amheuaeth o gwbl, byddwch yn garedig. Heb wytnwch, mae'r holl sgiliau eraill yn ddiwerth.

Matt Bennett
Benn
  • Enw
    Matt Bennett
  • Enw'r busnes
    Blanc Md LLP
  • Rôl
    Cyd-Sylfaenydd
  • Lleoliad
    Wirral UK