Michael Robert Sherwood

Treuliais y rhan fwyaf o fy mywyd gwaith ym maes Gweithrediadau Gweithgynhyrchu gan weithio mewn swyddi Rheoli Llinell a Rheoli Prosiect. Mae gennyf gymwysterau mewn Bioleg Gymhwysol ac rwy’n Beiriannydd wrth reddf.
Cynorthwyais gyda golygu’r Argraffiad Cyntaf o gyhoeddiad y Gymdeithas Rheoli Prosiectau (APM), Project Management Pathways ac roeddwn yn aelod o’r gymdeithas tan i mi ymddeol .
Rwy’n weithiwr tîm o ran natur, mae fy nghefndir mewn rheoli prosiectau wedi rhoi sgiliau dylanwadu cryf i mi sy’n ategu hynny. Mae fy arddull yn gynhwysol ac mae’n well gennyf agwedd socratig tuag at gyfarwyddiadau syml sy’n ddelfrydol ar gyfer rôl mentora. Roeddwn yn ddigon ffodus yn fy ngyrfa bersonol i gael mentor da yn gefn i mi felly rwy’n deall pa mor werthfawr y gall hyn fod.
Rwyf wedi gweithio’n genedlaethol ac yn rhyngwladol yn fy ngyrfa mewn sefydliadau aml-genedlaethol mawr megis Kodak a Johnson & Johnson a hefyd mewn busnesau biodechnoleg, newydd, llai fel British Biocell ac Oxford Immunotec.

 

Gair i Gall

Cynlluniwch y gwaith ac yna rhowch y cynllun ar waith.
Rwyf hefyd yn hoff o’r dyfyniad “The harder I work the luckier I seem to be”

Michael Robert Sherwood
Sherwood
  • Enw
    Michael Robert Sherwood
  • Enw'r busnes
    N/A
  • Rôl
    ymddeol
  • Lleoliad
    Caerdydd