Michelle Williams

Mae gan Shell Williams saith mlynedd o brofiad fel hyfforddwr a mentor cymwys i fusnesau bach. Mae’n darparu hyfforddiant Cyfryngau Cymdeithasol ac ymgynghoriaeth ar sut i wneud eich busnes yn fwy proffidiol. Mae’n arbenigwr mewn busnesau gweithio o gartref a gall ddangos i chi sut i symud eich busnes ar-lein a gwneud y mwyaf o’ch amser, er mwyn treulio mwy o amser gyda’ch anwyliaid. Mae Shell yn wych am systemeiddio eich busnes ac yn dangos sut all technoleg wella eich busnes. Mae’n gweithio’n bennaf â Mamau sydd eisiau gweithio’n hyblyg o gwmpas gofynion eu teuluoedd ac mae’n gweithio gydag arweinwyr benywaidd o bob math o gefndiroedd, yn cynnwys Cynghorwyr Aelodau Cynulliad, Adeiladwyr Timau Gwerthu Uniongyrchol, Perchnogion Siop, Therapyddion Lles, Busnesau Ffordd o Fyw, Busnesau Ar-lein, Siaradwyr, Prif Swyddogion Gweithredol a Sefydlwyr busnes. Ei sgiliau craidd yw datblygiad personol, cyfathrebu, datgloi potensial llawn, cymhellwr, sgiliau datrys problemau gwych, creadigedd a gwrando gweithredol. Mae cleientiaid blaenorol wedi dweud -

"Mae Shell yn wych. Fe wnaeth hi fy helpu i, un oedd yn nerfus ac yn ofni technoleg, i ddefnyddio Facebook a sefydlu tudalen fusnes. Mae Shell yn wybodus iawn, yn amyneddgar dros ben ac roedd hi’n reddfol yn gallu darparu’r union help yr oeddwn i angen. Yn bendant werth mwy na 5 Seren!”

"Dwi newydd ddod o gyfarfod gyda Shell ac mae ei gwybodaeth a’i pharodrwydd i rannu’r hyn y mae’n ei wybod yn fy syfrdanu. Rydw i wedi gadael y cyfarfod hwn wedi fy ysbrydoli ac yn barod i weithredu. Mae’r dyfodol yn ymddangos yn llawer mwy positif yn awr. Diolch Shell”

"Cyngor gwych, mae fy mhen yn troi efo’r holl wybodaeth!! Seren go iawn!!!”

Dysgwch sut y gallwch redeg eich busnes eich hun yn syml ac yn effeithiol gyda sgiliau hyfforddi a mentora Shell.

Gair i Gall

Cadwch bethau'n syml ac anelwch yn uchel

Michelle Williams
Michelle Williams
  • Enw
    Michelle Williams
  • Enw'r busnes
    Mum Academy
  • Rôl
    Mentor
  • Lleoliad
    Sir Gaerfyrddin