Nick Evans

Nick yw Rheolwr Gyfarwyddwr EvaBuild Ltd, Cwmni Adeiladu a Pheirianneg Sifil arobryn yn y canolbarth. Fe'i sefydlwyd yn 2011 ac mae wedi tyfu'n gyflym i gynhyrchu trosiant o bron i £3 miliwn yn ei drydedd flwyddyn mewn busnes, ac mae'n cyflogi 16 o staff llawn amser. “Ein hanrhydeddau mwyaf nodedig hyd yma oedd ennill categorïau “Busnes Newydd” Gwobrau Busnes Powys a Siambr Fasnach De Cymru yn 2013.”

Dechreuodd cefndir academaidd Nick gyda methiant yn yr ysgol uwchradd. Diffyg diddordeb oedd wrth wraidd hynny. Yna symudodd ymlaen i goleg technegol ac astudio adeiladu, pwnc a oedd yn ei gyfareddu a’i gyffroi. Yn y cyfnod cynnar hwn, daeth yn amlwg os yw dysgu yn ddymunol, yna gall ysbrydoli ac, yn fwyaf pwysig, ysgogi! Ar ôl y coleg aeth Nick i'r brifysgol i astudio peirianneg sifil. Mae o’r farn bod datblygiad proffesiynol parhaus a dysgu yn hanfodol bwysig ac ar hyn o bryd mae'n astudio ym Met Caerdydd ar gwrs a gynlluniwyd ar gyfer arweinwyr busnes yng Nghymru sydd â'r gallu i dyfu eu busnes a gwneud cyfraniad cadarnhaol at economi Cymru.

Dechreuodd Nick ei yrfa’n gweithio ar ei liwt ei hun yn bennaf, a rhoddodd hynny’r cyfle iddo ennill profiad mewn sectorau gwahanol o'r diwydiant. Buan iawn y symudodd ymlaen i swydd reoli gan ffynnu ar y cyfrifoldeb o allu cael mewnbwn personol wrth gyfarwyddo a rheoli prosiectau. Mae ei yrfa hyd yn hyn wedi cynnwys datrys problemau, mentora cwmnïau newydd sbon, rheoli BBaChau, ac mae bellach yn rheoli ac yn berchen ar ei gwmnïau eu hunain.

Mae ei gryfderau mentora yn cynnwys gallu rhagweld heriau twf cyflym, a helpu i gynllunio yn unol â hynny i oresgyn y peryglon. Bydd ei ddull arwain agored a deinamig yn helpu arweinwyr busnesau i ymateb i’r heriau fydd yn eu hwynebu yn y dyfodol a, gobeithio, yn cynorthwyo i’w hysgogi i gyflawni eu nodau terfynol.

Gair i Gall

"Peidiwch â bod ofn methu. Byddwch yn ddewr, byddwch â ffydd yn eich hun ac ymdrechwch 100%. Os na fyddwch yn llwyddo am ba reswm bynnag, rhowch glod i’ch hun am fentro. Peidiwch â chyrraedd diwedd eich gyrfa a difaru!"

Nick Evans
  • Enw
    Nick Evans
  • Rôl
    Rheolwr Gyfarwyddwr
  • Lleoliad
    Y Drenewydd