Nico Valla

Rwy’n helpu gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio 50+awr/wythnos i ddod o hyd i amser i symud a bwyta’n well er mwyn iddynt golli pwysau a theimlo’n fwy hyderus.

Cymhwysais fel athro yn y 2000au cynnar, ac yn 2008 penderfynais fynd yn hunangyflogedig. Ers hynny rwyf wedi cael amrywiaeth o brofiadau, ac ar hyn o bryd rwy’n gweithio gyda chleientiaid o bell.

Rwy’n cynnig gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ac yn defnyddio dull cefnogol mewn hyfforddiant maeth a ffitrwydd, ac adeiladu ar gryfderau a phwerau presennol fy nghleientiaid.

Rwy’n credu mewn proffesiynoldeb, cymryd cyfrifoldeb personol a gweithio gyda gonestrwydd. Rwy’n cymryd diddordeb yng nghynnydd fy nghleientiaid, a fy mhwrpas yw eu helpu nhw i edrych a theimlo’n dda a pherfformio hyd eithaf eu gallu.

Ers 2008, rwyf wedi cael cyfle i weithio gyda nifer o bobl anhygoel sydd wedi gwella eu bywydau y tu hwnt i’r hyn roeddynt yn credu oedd yn bosib, drwy gymryd rheolaeth dros eu hiechyd a’u ffitrwydd.

Fy Nghymwysterau:
• Athro gydag OTS
• Hyfforddwr Maeth Manwl
• Hyfforddwr Personol
Gallaf eich helpu chi gyda:
• Newid ymddygiad
• SEO ac e-byst marchnata
• Gosod nodau - canlyniadau a thargedau cynnydd
• Cyfrifoldeb

Gair i Gall

Mabwysiadwch feddylfryd ‘mae bob tro rhywbeth’ yn hytrach na ‘popeth neu ddim’.

Nico Valla
Nico
  • Enw
    Nico Valla
  • Enw'r busnes
    One Habit Coaching
  • Rôl
    Perchennog/Hyfforddwr maeth a hyfforddwr personol
  • Lleoliad
    Sir Benfro