Nicola Ridd-Davies

Graddiais gyda Gradd Anrhydedd dosbarth 1af mewn Ffasiwn, mae gennyf gymhwyster Torri Patrymau Uwch Telestia ar gyfer Darparwyr Hyfforddiant a dros 25 mlynedd o brofiad yn y Diwydiant Ffasiwn, gan gynnwys 10 mlynedd gyda’r brand TOAST (www.to.ast/uk/) fel Torrwr Patrymau  Dillad Merched a Dillad Dynion a Chydlynydd Technegol.
 
Ar hyn o bryd rwy’n Ymgynghorydd ar Dechnoleg Dillad ar fy liwt fy hun ac rwy’n Gyfarwyddwr Creadigol Visible Clothing http://www.visibletailoring.com/, canolfan weithgynhyrchu moesol yn Daramshala, India, sy’n ymrwymedig i gynnal safonau ac amodau gweithio rhagorol. Rwyf hefyd yn dysgu yn fy stiwdio ‘The Little Stitchery’ ac i ‘Make it in Wales’, yn rhedeg gweithdai a chyrsiau strwythuredig ar Dorri Patrymau, Gwneud Dillad Wedi’u Gwneud i Fesur a Thechnegau Gwnïo Technegol.

Rwy’n arbenigo mewn adnabod ac ymateb i ddemograffeg fy nghleientiaid a chreu siartiau maint perthnasol a blociau patrwm unigryw. Mae gennyf ddealltwriaeth ddofn o’r materion a’r cyfyngiadau o safonau  presennol y diwydiant ac rwy’n cynnig datrysiadau wedi’u teilwra sy’n lleihau cost, yn cynyddu gwerthiant ac yn lleihau gwastraff.

Rwy’n cefnogi’r mudiad Chwyldro Ffasiwn ac yn ymrwymedig i gynnal gwerthoedd a moeseg y sector ffasiwn masnach deg. Ni fyddaf yn cefnogi unrhyw un sy’n cael ei fentora sy’n defnyddio ymarferion anfoesegol.

Gallaf gynnig mentora yn y meysydd canlynol;
Torri Patrymau (Dillad Merched, Dillad Dynion a Dillad Plant)
Graddio
Esthetig Dylunio
Samplu
Datblygu Cynnyrch
Pecynnau Technegol
Llwybrau Critigol (Amserlenni)
Prosesau gweithgynhyrchu
Offer
Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAD)
Meintio
Prisio

Gair i Gall

Peidiwch â thanbrisio eich hun na’ch busnes.
Byddwch yn hyblyg/pen agored a gadewch i’r busnes dyfu’n organig.
Gwrandewch ar adborth eich cwsmeriaid.

Nicola Ridd-Davies
Nicola
  • Enw
    Nicola Ridd-Davies
  • Enw'r busnes
    The Little Stitchery/Nicola Ridd-Davies Garment Design & Technology
  • Rôl
    Consultant Pattern Cutter/Garment Technologist & Tutor
  • Lleoliad
    Ystradgynlais, Abertawe SA9