Omar Moulani

Rwyf wedi bod yn rhan o ddiwydiannau ceisiadau’r we a datblygu busnes ers dros 14 o flynyddoedd. Rwy’n gyfarwyddwr ac yn aelod o nifer o gwmnïau meddalwedd technolegol. Rwyf wedi arwain aelodau ynghylch Eiddo Deallusol ac wedi rhannu profiad gwerthfawr wrth greu cwmni sefydlu.
Mae fy mhrofiad mewn meysydd marchnata, eiddo a thechnoleg. Rwy’n canolbwyntio ar ddefnyddio gwelliannau meddalwedd a’u cyfuno â phrosesau wedi eu cynllunio’n ofalus. Mae hyn yn cynnwys agweddau o beirianneg marchnata, gwasanaeth cwsmer, datblygiad, cynllunio a gweithredu.

Fel perchennog busnes, un sy’n cynghori neu un anweithredol, rwy’n canolbwyntio ar yr egwyddorion canlynol wrth weithredu gwelliannau mewn unrhyw fusnes. Y rhain yw fy nghryfderau:
Dadansoddi Proses
Cynllunio System
Gweithredu a Monitro
Sgiliau Technolegol

Gallaf weithio ag unrhyw fusnes – rwyf yn adeiladu ar amryw o systemau gan ddefnyddio’r systemau cywir ar gyfer gweithrediadau cywir. Isod gwelwch fy medrusrwydd craidd.

-Golygu fideos ac animeiddiadau
-Golygu cerddoriaeth
-Dylunio lluniau a golygu
- Codio cronfeydd data a gweithrediadau technolegol ar sail synnwyr
-Trefnu gwefannau a sgiliau golygu HTML llawn
-Awtomeiddiad ac integriadau meddalwedd
-Ymgynghoriaeth Block-chain (Technoleg Ariannol Newydd)
- Cynllunio Busnes
-Cynllunio Proses
- Cyllid a chyfrifon
-Rheoli prosiectau

Bydd Mentora yn cynnwys:
-Dadansoddi eich cais busnes yng nghyd-destun eich diwydiant targed
-Eich cynorthwyo i greu map llwybr gyda gweithredoedd ac amcanion
-Eich cynghori chi ar lwybrau ar gyfer buddsoddiad trydydd parti /cyllid/credyd treth

Gair i Gall

Deffro'n gynar

Omar Moulani
OMAR
  • Enw
    Omar Moulani
  • Enw'r busnes
    WeGetDesign.com
  • Rôl
    Cyfarwyddwr
  • Lleoliad
    Caerdydd