PAMELA NEAL
Rwyf wedi bod yn fentor a hyfforddwr busnes cymwys ers dros 20 mlynedd, yn gweithio gyda busnesau cychwynnol, a busnesau twf uchel o bob maint a sector; rwyf wedi helpu gyda cheisiadau grantiau, cyllid a chyfalaf; wedi cynnal adolygiadau helaeth o’u systemau, prosesau a gweithdrefnau i sicrhau eu bod yn addas at y diben ac nad ydynt yn rhwystr i berfformiad. Rwy’n hyfforddi hyfforddwyr a mentoriaid ar hyn o bryd trwy’r Ganolfan Reoli/Datblygiad Proffesiynol Grŵp Llandrillo Menai. Fel rhan o fy natblygiad proffesiynol parhaus fy hun, rwy’n hyfforddi i fod yn oruchwyliwr mentor/hyfforddwr lefel 7 – cwrs rwy’n ei fwynhau’n arw ac sy’n ategu’n fawr at fy sgiliau mentora a hyfforddi.
Rwy’n angerddol dros bobl a busnes ac yn gyffrous wrth eu gwylio a’u cefnogi i dyfu a rhagori – gan wylio, gwrando a defnyddio fy empathi a’m greddf i alluogi pobl i ffynnu. Fi yw eu ‘clust i wrando’, ond yr un i herio hefyd yn ôl yr angen. Mae cleientiaid yn dweud wrthyf eu bod yn parchu fy sgiliau fel mentor a hyfforddwr, a hwylusydd cymhellol.
Mae fy sgiliau mentora a hyfforddi yn cael eu hategu gan fy sgiliau fel athro ioga, myfyrio ac ymwybyddiaeth ofalgar, ac mae’r plethu’n digwydd o gymhwyso i fusnesau fy ngallu i ddeall straen a chymhwyso’r atebion priodol i sefydliadau.
Rwy’n ei ystyried yn fraint cael fy ngwahodd i weithio gyda phobl a’u sefydliad.
-
EnwPAMELA NEAL
-
Enw'r busnesPAMELA NEAL CONSULTANCY
-
RôlHYFFORDDWR GWEITHREDOL & MENTOR
-
LleoliadSIR DDINBYCH