Patricia Carlin

Ar ôl gweithio i un o 100 cwmni Cyfnewidfa Stoc y Financial Times (FTSE) am 24 mlynedd, gan gynnwys 17 mlynedd yn datblygu marchnadoedd tramor yn Ewrop, Canolbarth America a'r Caribî, mae fy mhrofiad yn eang, gan gynnwys arwain uned fusnes strategol, ymchwil a datblygu marchnadoedd newydd, dod o hyd i gyfleoedd i ddarparu proffidioldeb ac elw ar fuddsoddiad.

Roedd y gwaith hwn yn cwmpasu caffael, prisio cynnyrch, marchnata, gwerthu a dosbarthu, trysorlys ar gyfnewid arian cyfred, deddfwriaeth mewnforio ac allforio. Roedd hurio a chynnal perthynas waith ardderchog gydag asiantau dosbarthu a'u staff yn hollbwysig, felly hefyd deall polisïau a gweithdrefnau deddfwriaethol aml-farchnad.

Mae fy nghryfderau’n cynnwys Cynllunio Busnes Strategol a Gweithredol, Hyfforddi a Mentora sydd wedi bod yn gaffaeliad amhrisiadwy yn fy rôl bresennol fel Uwch Gynghorydd Busnes gyda Chyngor Sir y Fflint. Mae fy ngwybodaeth a phrofiad wedi ehangu i gynnwys tendro ac ysgrifennu cynigion ac ymarfer Rheoli Darbodus. Rydw i wedi bod yn allweddol i sefydlu rhwydweithiau busnes ac rydw i’n parhau i weithio mewn partneriaeth gyda gwahanol rwydweithiau busnes yn ymestyn ar draws gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr.

Yn y deng mlynedd diwethaf rydw i wedi sicrhau bod fy DPP yn gyfredol, ac wedi ennill Statws Rheolaeth Siartredig gyda CMI yn 2009 ac rydw i wedi cwblhau MA Rheoli yn y Sector Cyhoeddus yn 2010.

Mae gen i brofiad o hyfforddi a mentora busnesau ar sawl lefel gan gynnwys lefel Rheolwr Gyfarwyddwr / Prif Swyddog ac mae fy nghymwysterau diweddar yn cynnwys Lefel 7 ILM mewn Hyfforddi a Mentora Swyddogion Gweithredol. Rydw i’n gwirfoddoli fel mentor gyda’r Carers Trust, ac rydw i wedi bod yn ymddiriedolwr ac aelod o fwrdd sawl elusen leol.

Gair i Gall

"Peidiwch byth â rhoi’r gorau i wrando na byth rhoi’r gorau i ddysgu "

Patricia Carlin
  • Enw
    Patricia Carlin
  • Rôl
    Uwch Ymgynghorydd Busnes
  • Lleoliad
    Sir y Fflint