Peter Bannister (Dr)

Mae Dr Peter Bannister wedi bod mewn swyddi uwch weithredol mewn llawer o gwmnïau uwch-dechnoleg sydd wedi deillio o brifysgolion, mae ganddo dros 15 mlynedd o brofiad o drosi technolegau delweddu newydd o’r lab i’r farchnad. Mae hefyd wedi bod yn uwch gynghorydd i gwmnïau sy’n gweithio mewn meysydd fel deallusrwydd artiffisial a llawdriniaeth sydd mor anymwthiol â phosib. Mae wedi gwneud cynigion llwyddiannus am dros £4 miliwn mewn grantiau’r sector cyhoeddus ac wedi bod yn allweddol wrth godi dros £13 miliwn mewn cyllid cyfalaf menter ar draws nifer o fusnesau newydd.

Cafodd Peter ei wobrwyo gyda Dphil (PhD) o Brifysgol Rhydychen, lle’r oedd yn un o ddatblygwyr gwreiddiol y Llyfrgell Meddalwedd Delweddu Cyseinedd Magnetig (MRI) Gweithredol, ar gyfer dadansoddi niwro ddelwedd.

Yn dilyn hyn cafodd swydd ymchwil Ôl-ddoethurol ym maes dysgu peiriannau ar gyfer systemau cymhleth diwydiannol mewn partneriaeth gyda Rolls-Royce Plc.

Fe ddysgodd gwyddor peirianneg yn Rhydychen am dros ddegawd ac mae’n parhau i fod yn eiriolwr angerddol dros addysg a datblygiad proffesiynol ar draws y pynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg).

Mae Peter yn Beiriannydd Siartredig ac yn Gadeirydd Gweithredol Sector Gofal Iechyd y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg.

Gair i Gall

Parhewch i siarad gyda’ch defnyddwyr terfynol, astudiwch ddynameg y farchnad a pharatowch i ddiweddaru eich cynlluniau yn gyfatebol.

Peter Bannister (Dr)
dr
  • Enw
    Peter Bannister (Dr)
  • Enw'r busnes
    Bannister Technologies
  • Rôl
    Perchennog, Ymgynghorydd Arweiniol
  • Lleoliad
    Caerdydd