Peter Wilson
Rwyf wedi bod yn helpu busnesau bach i dyfu, cynyddu eu hysbryd cystadleuol a chamu i farchnad newydd ers 30 mlynedd. Mae meddu ar gyfuniad o brofiad ymarferol ac academaidd wedi rhoi set sgiliau unigryw i mi allu helpu busnesau ddatrys eu problemau a dod yn fwy llwyddiannus. Cychwynnais fy ngyrfa mewn electroneg, gan symud at gyflogaeth yn y sectorau tecstilau, esgidiau a dillad. Yn ddiweddarach, sefydlais fusnes ymgynghori llwyddiannus, wedi ei leoli yn y DU am 25 blynedd, gan weithio gyda chwmnïau bach a mawr. Mae gennyf gymwysterau mewn rheolaeth, tecstilau, peirianneg ddiwydiannol, ac mae fy PhD yn seiliedig ar “Gynnydd Cystadleuol BBaCh”.
Rwyf hefyd yn ymarferydd gweithgynhyrchu Lean, gweithiwr proffesiynol tecstilau siartredig, ac yn gyfrifol am greu SEAMS; system ddata gyfrifiadurol ar gyfer sefydlu amser a chost gweithgynhyrchu dillad ac esgidiau. Rwy’n uwch ddefnyddiwr cyfrifiadur (gosodiadau MS Office); ac wedi fy hyfforddi i ddefnyddio Cerdyn Sgorio Cytbwys a Safonau BS EN ISO 9000.
Rwyf wedi gweithio ar nifer o raglenni datblygu fel arbenigwr mewn datblygiad sector preifat, yn cynnwys helpu cwmnïau gyda’u strategaethau, datblygiad allforio, gostwng cost, dulliau peirianneg, cynlluniau ffactrïoedd, cost a phrisio cynnyrch, a gweithredu rhaglenni ansawdd. Rwyf hefyd wedi bod ynghlwm â gweithredu mentrau clwstwr, mapio cadwyn werth, datblygiad sefydliadol, datblygiad entrepreneuraidd a BBaCh, ynghyd â dylunio a darparu rhaglenni hyfforddi. Mae gennyf brofiad gweithredol o helpu BBaCh mewn nifer o sectorau, yn cynnwys esgidiau a lledr, dillad a thecstilau, peirianneg a gweithgynhyrchu ysgafn, manwerthu, twristiaeth, cerameg, a phrosesu bwyd.
Yn ogystal â darparu cymorth cynorthwyol ac ymgynghorol i BBaCh a sefydliadau yn y sector preifat yn y DU, rwyf wedi gweithio ar nifer o brosiectau rhyngwladol yn cynnwys Twrci, Yr Aifft, Sri Lanca, Pacistan a Bangladesh. Roedd nifer ohonynt yn brosiectau wedi’u hariannu gyda chymorth gan roddwyr rhyngwladol megis yr UE, World Bank, UNIDO etc.
-
EnwPeter Wilson
-
Enw'r busnesPWA
-
RôlGyfalaf
-
LleoliadCeredigion