Phil Ashill

Mae Phil yn fentor profiadol, ac mae wedi darparu cefnogaeth ymarferol wedi’i theilwra i ystod eang o sefydliadau o unig fasnachwyr, Mentrau Cymdeithasol unigryw, yn ogystal â mentrau masnachol mwy. Dros ddegawd, mae wedi arwain therapyddion, mân werthwyr, trefnwyr digwyddiadau, bragdai crefft, landlordiaid ac mae wedi cynorthwyo i ddarparu’r cynllun Menter Newydd.

Mae ganddo wybodaeth helaeth am y sectorau allweddol yn economi Cymru, gan gynnwys twristiaeth, gofal iechyd, gwasanaethau cyllid, datblygu apiau a’r sector greadigol ehangach. Mae’n arbenigo mewn troi gweledigaethau uchelgeisiol yn gynlluniau busnes llawn sy’n ymgorffori targedau cyraeddadwy, gyda phwyslais cryf ar strategaethau marchnata diweddar a rhagolygon cyllidol cadarn i wneud y mwyaf o gyfleoedd cyllid a buddsoddiad - ond yn gyn bwysiced, i ymddwyn fel teclyn meincnodi personol, defnyddiol.

Yn 2012, ymddeolodd o yrfa lwyddiannus fel ymgynghorydd rheoli, dadansoddwr systemau TGCh, rheolwr prosiect ac aelod Bwrdd.  Yn Uwch MGB ar gyfer Prifysgol De Cymru. O ran ffordd o feddwl a dull gweithio mewn busnes, mae’n gyfoes iawn, gyda chryfder ym maes marchnata symudol, tueddiadau cymdeithasol gwleidyddol a chaffael.

Phil
  • Enw
    Phil Ashill
  • Lleoliad
    Rhondda