Rebecca Ellis-Owen

Rwy’n uwch gyfarwyddwr gyda dros 20 mlynedd o brofiad arwain, sy’n gweithio ar lefel bwrdd strategol i ddatblygu, cyfathrebu, gweithredu a chynnal mentrau strategol corfforaethol. Mae gennyf allu wedi ei brofi wrth lywio prosiectau cymhleth ac amlddisgyblaethol drwy arweinyddiaeth effeithiol mewn ystod amrywiol o sectorau, gan gynnwys iechyd, gwasanaethau ariannol, manwerthu, peirianneg, gweithgynhyrchu, teithio a thwristiaeth, technoleg, y celfyddydau a’r trydydd sector. Mae gennyf brofiad helaeth o ddatblygu a gweithredu rhaglenni ac ymgyrchoedd ymgysylltu i ystod eang o gynulleidfaoedd.

Mae gennyf brofiad helaeth o weithio o fewn yr amgylchedd rheoli ac ariannol. Yn ogystal ag arbenigedd wrth alinio amcanion cyfathrebu (allanol a mewnol) â nodau masnachol a chaffael pendant, rwy’n feddyliwr arloesol a chreadigol wedi ei ysgogi, gyda hanes blaenorol o fynd i’r afael â briffiau gyda syniadau newydd a chyffrous. Mae gennyf brofiad helaeth o reoli a dyrchafu brandiau, wrth ganolbwyntio ar ennill a chadw cwsmeriaid a darparu canlyniadau.

 

Gair i Gall

Yn y cyfryngau heddiw, nid yw cyfathrebu llwyddiannus yn golygu cyllidebau mawr, asiantaethau mawr a phwy sy’n gallu gweiddi ar dop ei lais. Mae’n ymwneud â bod yn ddoeth, yn amserol a siarad Saesneg clir (neu Gymraeg).

Rebecca Ellis-Owen
Rebecca
  • Enw
    Rebecca Ellis-Owen
  • Enw'r busnes
    In The Hot Seat
  • Rôl
    Managing Director
  • Lleoliad
    Cardiff