Richard Davies

Mae Richard yn meddu ar dros 30 mlynedd o brofiad ym maes adeiladwaith a Rheoli Cyfleusterau. O ran rheoli cyfleusterau, mae wedi dal uwch swyddi gweithredol, gan reoli cytundebau Rheoli Cyfleusterau mawr, ac yn ystod y 15 mlynedd diwethaf mae wedi cynghori byrddau ac uwch gynrychiolwyr sefydliadau niferus yn y DU a ledled y byd. Mae ganddo record o gynhyrchu arbedion cost ac effeithlonrwydd ar yr un pryd â gwella safonau ansawdd a gwasanaeth. Ei ddiddordeb pennaf yw sefydlu deilliannau gwerth gorau y gellir eu harddangos, ac mae wedi creu safon arloesol (mynegai Ansawdd-Gwerth) er mwyn arwain sefydliadau tuag at wasanaethau Rheoli Cyfleusterau o ‘Safon Fyd-eang’.

Mae Richard wedi ymgymryd â gwaith ymchwil sylweddol yn y diwydiant, wedi gwasanaethu ar nifer o fyrddau a phanelau oddi mewn i’r Sefydliad Rheoli Cyfleusterau Prydeinig a’r Sefydliad Safonau Prydeinig ac wedi bod yn ddarlithydd gwadd mewn nifer o Brifysgolion.

Rydw i’n seilio fy musnes ar yr egwyddorion craidd – gwerth am arian – perfformiad – risg.

Gair i Gall

Cynlluniwch ac ymchwiliwch y farchnad ac ymarferoldeb eich syniad yn drylwyr cyn mentro i sefydlu eich busnes eich hun.

Richard Davies
Richard Davies
  • Enw
    Richard Davies
  • Enw'r busnes
    Evolve Business Excellence
  • Rôl
    Rheolwr Gyfarwyddwr
  • Lleoliad
    Cymru/Cenedlaethol