Richard Forde-Johnston
Yn dilyn fy HND mewn Busnes a Chyllid ym Mhrifysgol Swydd Stafford, ymunais â'r fyddin a gwasanaethu am ddeng mlynedd yn y Cheshire Regiment cyn gadael yn 30 oed i gychwyn gyrfa sifil a phriodi. Bûm yn gweithio yn y maes telathrebu am nifer o flynyddoedd, gan ddechrau fel arweinydd Gwasanaethau Cwsmeriaid Corfforaethol ar gyfer Martyn Dawes gydol y cyfnod pan oedd O2 yn caffael y cwmni.
Yna symudais i’r sector gwerthu gyda Vodafone a gweithio fy ffordd i fyny'r cwmni dros gyfnod o naw mlynedd a thrwy’r holl sianelau uniongyrchol i fod yn Rheolwr Gwerthu Rhanbarthol (Cymru a Gorllewin Lloegr) yn y Sianel BBaCh. Yna, gadawais i ddilyn gyrfa uwch am sawl blwyddyn fel Cyfarwyddwr Gwerthu neu Bennaeth Gwerthu a Marchnata ar gyfer gwahanol fusnesau entrepreneuraidd - yn y sectorau telathrebu a diogelwch yn bennaf. Yna penderfynais rai blynyddoedd yn ôl yn fy 40au canol i sefydlu fy musnes ymgynghori /gwerthu asiantaeth fy hun i helpu cwmnïau eraill i bennu eu strategaeth a seilwaith gwerthu, gan gynnwys pobl, prosesau a hyfforddiant.
Rydw i’n arbenigo mewn arwain gwerthu, negodi strategol a rheoli’r berthynas ystafell fwrdd /byd-eang. Mae fy sgiliau craidd ym meysydd rheolaeth sefydliadol, lleoli cynigion, ymgysylltu â chwsmeriaid a’r gallu i gytuno ar gytundebau. Rydw i'n hyfforddwr, anogwr a mentor profiadol ar draws ystod o ddisgyblaethau.
-
EnwRichard Forde-Johnston
-
RôlPerchennog/Cyfarwyddwr
-
LleoliadWrecsam