Ruth Adams
Rydw i wedi rhedeg nifer o fusnesau bach a chwmni Hyfforddi Bywyd a Busnes Selva yw’r un diweddaraf. Trwy fy llwyddiannau a methiannau a thrwy mynychu llawer o gyrsiau busnes a darllen llyfrau di-ri rydw i wedi ennill profiad a gwybodaeth am anawsterau a llawenydd rhedeg busnes meicro.
Cyn mentro i fyd busnes, roeddwn yn gweithio i'r GIG fel Therapydd Galwedigaethol ym maes iechyd meddwl. O ganlyniad, mae gen i wybodaeth eang am les bositif iechyd meddwl. Dyma pam y dilynais y llwybr presennol a hynny er mwyn ysbrydoli a chefnogi cleientiaid i gael eglurder, ffocws a chyfeiriad i’w bywydau.
Mae gennyf dystysgrif a diploma mewn Hyfforddi Bywyd a BSc (Anrhydedd) mewn Therapi Galwedigaethol.
Rydw i wedi cynnal sesiynau mentora a hyfforddi ar gyfer nifer o fusnesau bach o fewn y sector creadigol a’u hysbrydoli a chefnogi twf eu busnesau.
Y sgiliau craidd a'r cryfderau sydd gennyf i gynnig yw:
Gwrando. Adlewyrchol. Darparu mewnwelediad a throsolwg, Ysgogi eglurder. Ysbrydoli twf a datblygiad.
-
EnwRuth Adams
-
RôlPerchennog a Hyfforddwr Bywyd
-
LleoliadCeredigion