Sally Herdman

Mae Sally yn fentor busnes cydnabyddedig sy'n cynnig dull newydd o weithredu trawsnewid personol a rhagoriaeth mewn busnes. Mae ganddi gyfoeth o brofiad sy'n ymestyn dros dri degawd mewn ystod eang o sefydliadau a diwydiannau - yn amrywio o gynhyrchu dur, olew Môr y Gogledd, adeiladu, gwasanaethau ariannol, ffermio, datblygiad personol a llawer mwy.

Fel mentor i unigolion, mae hi'n rhoi hwb i’w sgiliau personol a chymdeithasol, ac yn eu helpu i sicrhau gwell iechyd a lles emosiynol. Mae hi'n canolbwyntio ar flaenoriaethau’r rhai mae’n eu mentora ac yn eu helpu i ddatrys materion sy'n eu hatal nhw a’u busnes rhag cyflawni o’u gorau. Mae'n gwneud hyn trwy ddefnyddio methodoleg unigryw a chyfuniad pwerus o dechnegau.

I ddatblygu sefydliadau, mae hi'n hyfforddi a mentora pobl er mwyn gwella sgiliau busnes allweddol megis cyfathrebu effeithiol, gwneud penderfyniadau, datrys anghydfod a rheoli newid.

Mae rhai o fanteision gweithio gyda hi fel mentor yn cynnwys:

  • nodau a gweledigaeth sefydliadol neu bersonol cliriach
  • cyfathrebu gwell
  • mwy o hyder
  • gwell ffocws a chymhelliant ymhlith y gweithlu
  • rheoli amser yn fwy effeithiol
  • rheoli straen yn well
  • gwell sgiliau rheoli ac arwain
  • cynnydd mewn cynhyrchiant

Mae hi'n rhannu arfau hynod bwerus fel mentor, gan arwain at ganlyniadau cadarnhaol o bwys a thrawsnewid tymor hir yn eu busnesau.

Gair i Gall

"Canolbwyntiwch ar yr hyn gallwch chi ei wneud i helpu eraill – llwyddwch ac fe fyddwch yn elwa!"

Sally Herdman
  • Enw
    Sally Herdman
  • Rôl
    Cyfarwyddwr
  • Lleoliad
    Powys