Sean James Tighe

Rwy’n hynod falch o fod wedi derbyn y cynnig i fod yn Fentor gan Busnes Cymru, a chynnig fy sgiliau a phrofiad i entrepreneuriaid Cymru. Mae gennyf dros 20 mlynedd o brofiad mewn gwerthiannau a marchnata o fyd prysur a chreadigol y cyfryngau, ac rwyf wedi gweithio i rai o’r brandiau cyfryngau mwyaf yn y DU, yn cynnwys The Wireless Group, Guardian Media Group a News UK yn fwy diweddar!

Rwyf wedi gweithio gydag unig fasnachwyr, BBaCh a brandiau cenedlaethol i greu ymgyrchoedd a oedd yn ddiddorol a chreadigol, er mwyn hyrwyddo eu gwasanaethau a/neu gynnyrch ac adeiladu eu proffil. Mae meddwl am fusnes, brand, a chynnyrch yn hawdd, ac mae nifer yn anghofio am farchnata. Mae’n rhaid i chi wahodd pobl i mewn. Nawr, yn fwy nag erioed, rydym yn byw mewn byd hysbysebu gorlawn ac mae’n hynod bwysig fod unrhyw ymgyrch farchnata yn ddiddorol ac yn ‘clymu’r’ cyhoedd i ddod yn gleientiaid posib.

Mae fy sgiliau’n cynnwys adnabod cyfleoedd newydd, deall gofynion y cleient a’u i ddarparu datrysiad i'r farchnad gywir, gan ddefnyddio’r llwyfannau hysbysu mwyaf cost effeithiol.

 

Sean
  • Enw
    Sean James Tighe
  • Rôl
    Mentor
  • Lleoliad
    Sir Gaerfyrddin