Sian Roach

Rwy’n Hyfforddwr Gweithredol â chymhwyster Lefel 7 ILM. Rwy’n angerddol iawn dros ysbrydoli eraill i gydnabod a gwneud y mwyaf o’u hapusrwydd, boed hynny yn eu hamgylchedd gwaith, yn eu perthnasoedd neu yn eu bywydau personol. Mae gwella ein hapusrwydd yn gwella ein lles ac mae’r buddion yn bellgyrhaeddol.

Fel hyfforddwr, fy nod yw bod yn gymar cefnogol, calonogol a heriol fel y gall fy nghleientiaid gymryd rheolaeth o’u bywydau. Waeth beth fo’n nodau proffesiynol neu bersonol mewn bywyd, ein prif nod yw hapusrwydd.

Mae gennyf dros 15 mlynedd o brofiad corfforaethol fel hyfforddwr, arweinydd ac asiant dros newid, lle rwy’n herio, dylanwadu, cefnogi a meithrin datblygiad eraill drwy greu a chyflwyno datrysiadau dysgu cymysg arloesol. Rwy’n canolbwyntio ar effeithlonrwydd a datrys gyda meddwl creadigol a phenderfynol, a synnwyr digrifwch sy’n helpu i roi pethau mewn persbectif.

Mae gennyf hefyd dros 36 mlynedd o brofiad fel bod dynol, 3 o blant a thŷ sy’n troi’n llanast llwyr bob tro rwy’n troi fy nghefn! O’r herwydd, fy mhrif strategaeth yw canolbwyntio ar hapusrwydd pan fo heriau’n codi. Fel Arweinydd Ioga Chwerthin ardystiedig, rwy’n ymwybodol o fuddion chwerthin a’r effaith y gall hyn ei chael ar les. Dyma pam fy mod hefyd yn cynnig hyfforddiant chwerthin, yn ogystal â hyfforddiant gweithredol a byw, i fy nghleientiaid.

 

 

Gair i Gall

Mewn busnes, fel mewn bywyd, rydych un ai’n ennill neu yn dysgu.

Sian Roach
Sian
  • Enw
    Sian Roach
  • Enw'r busnes
    The Roach Coach
  • Rôl
    Executive, Life & Laughter Coaching
  • Lleoliad
    Vale of Glamorgan