Simon Paul Clarke

Cadwch lygad ar yr amgylchedd, sicrhewch fod eich Bûm yn gwasanaethu am 5 mlynedd fel Swyddog Milwyr Traed yn y Fyddin Brydeinig cyn gadael i ddod yn Rheolwr Gweithrediadau ar gyfer Ymgynghoriaeth Risg i Ddiogelwch wedi ei lleoli yn Llundain.
Ar ôl 3 blynedd yn rheoli tîm arbenigol gan weithio ar draws y byd, penderfynodd fy ngwraig a minnau newid ein ffordd o fyw drwy symud i Sir Benfro i ddechrau gweithio ym musnes teuluol fy ngwraig. Dyma pryd y dechreuais astudio MBA gyda'r Brifysgol Agored, a orffennais yn 2016.
Ar ôl nifer o flynyddoedd yn datblygu ac ehangu'r busnes, daeth y cyfle i ni brynu'r cwmni, Elliots Hill Care Ltd. Gwnaethom hynny yn 2017.

Yn fy ngyrfa hyd yn hyn rwyf wedi cael profiad mewn amgylcheddau gwahanol, o ardaloedd rhyfel i ddelio â busnesau newydd, ac ym mhob sefyllfa, cael y strategaeth, pobl a phrosesau yn iawn yw'r allwedd i wneud busnes neu brosiect yn llwyddiant.

 

 

Gair i Gall

Strategaeth yn gyfredol, rhowch sylw i fanylion a chadwch olwg ar eich arian.

Simon Paul Clarke
Clarke
  • Enw
    Simon Paul Clarke
  • Enw'r busnes
    Elliots Hill Care Ltd
  • Rôl
    Cyfarwyddwr
  • Lleoliad
    Sir Benfro