Stephan J Grabner

Mae gennyf gefndir o weithio dros 30 mlynedd mewn sawl diwydiant gwahanol, megis y diwydiant dur ac adeiladu, electroneg, modurol, manwerthu, iechyd yn ogystal â’r diwydiant bwyd a diod.

Rwy’n arbenigo mewn datblygu busnes, ac rwyf wedi gweithio mewn swyddi gwerthu a rheoli prosiectau hyd at lefel cyfarwyddwr.

Rwy’n frwd dros bobl a chyflawni ansawdd a gwasanaeth fel rhan allweddol o lwyddiant.
Cefais nifer o flynyddoedd anodd, ond dysgais i lwyddo drwy wneud camgymeriadau, ac rwy’n awyddus i rannu fy ngwybodaeth. 

Mae gen i fy musnes fy hun ar hyn o bryd, sef Amatsu Centre. A minnau wedi hyfforddi fel nyrs yn wreiddiol, ac wedi gweithio ers nifer o flynyddoedd fel Rheolwr Datblygu Busnes Rhyngwladol, penderfynais newid cyfeiriad ar ôl derbyn triniaeth lwyddiannus am broblemau clun a phen-glin yn 2015 gan Clare Heal, therapydd Amatsu hynod brofiadol. 

Rwy’n Therapydd Amatsu cymwys. Astudiais gyda Jane Langston yn Amatsu Training School a sefais Arholiad Amatsu Lefel 1 yn 2016 a Lefel 2 yn 2017, gan gyflawni gradd rhagoriaeth yn y ddau. Astudiais gwrs Lefel 3 yn 2018/19 ac ers 2021 rwy’n astudio Amatsu a Nodwyddo gyda Chris Roworth yn yr Ysgol Meddygaeth Siapaneaidd Gyfannol.  

Mae gennyf yswiriant llawn, tystysgrif gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, hyfforddiant Cymorth Cyntaf, ac rwy’n Ymarferwr Meddygaeth Siapaneaidd Gyfannol Amatsu trwyddedig.
 

Gair i Gall

Gwrandewch ar eich cleientiaid a dysgwch oddi wrthynt!

Stephan J Grabner
Stephan
  • Enw
    Stephan J Grabner
  • Enw'r busnes
    Amatsu centre – Amatsu & Accupuncture Therapy
  • Rôl
    perchennog
  • Lleoliad
    Sir Fynwy