Stephen Garrett

Fel Sylfaenydd a chyn Gadeirydd RCMA Social Enterprise Ltd., rwyf wedi helpu i lywio Marchnad Ffermwyr arobryn Glan yr Afon Caerdydd drwy dros ugain mlynedd o dwf, ac wedi cychwyn sawl menter gysylltiedig, gan gynnwys sefydlu menter arddwriaeth ar raddfa fach sy'n tyfu llysiau organig i'w bwyta'n lleol, sydd bellach wedi'i datblygu fel cydweithfa i weithwyr.

Rwyf bob amser wedi bod yn awyddus i gefnogi eraill sydd â'r un meddylfryd entrepreneuraidd. Ar hyn o bryd rwy'n diwtor menter gyda Phrifysgol Caerdydd, yn dysgu cwrs mewn Sefydlu Busnes Bach Llwyddiannus mewn amrywiaeth o leoliadau cymunedol. Rwy'n mwynhau annog pobl i ddatblygu'r hyder a'r hunangred i weld eu syniadau'n dod yn realiti, a'u helpu i gyrchu’r offer y gallai fod eu hangen arnynt i wneud hyn. Yn yr un ysbryd, rwyf wedi bod yn fentor Model Rôl gyda Syniadau Mawr Cymru ers sawl blwyddyn yn mynd i ysgolion a cholegau i ysbrydoli pobl ifanc i ystyried sefydlu eu busnes eu hunain. Weithiau, ffordd dda o wneud hyn yw rhannu gyda nhw rai o'r camgymeriadau rwyf wedi'u gwneud dros y blynyddoedd a'r hyn y gwnes i ei ddysgu ohonynt, fel eu bod yn gweld bod gan fod yn entrepreneur llwyddiannus gymaint i'w wneud â chael dycnwch a meddylfryd cadarnhaol, ag y mae’n ei wneud â meddu ar unrhyw alluoedd arbennig.  

Rwyf hefyd yn fentor gyda sawl rhaglen cymorth menter arall, fel Enterprising Solutions a New Start Wales (Canolfan Cydweithredol Cymru). 

Yr hyn rwy'n ei fwynhau am y gwaith hwn yw cael y cyfle i gydnabod potensial; rhoi anogaeth a chefnogaeth ymarferol i bobl sy'n angerddol am roi syniadau ar waith a chreu newid mewn ffyrdd ymarferol – hyd yn oed pan fydd y ffordd (anochel) yn mynd yn ansefydlog neu'n droellog. 

Ochr yn ochr â'm profiad o reoli mentrau cymdeithasol, mae gennyf brofiad personol o redeg stondin farchnad sydd wedi rhoi cefndir ymarferol iawn i mi o ran y ffordd orau o ymgysylltu â chwsmeriaid, gwneud y mwyaf o werthiannau, datblygu a hyrwyddo brand, a sawl agwedd ar gynllunio busnes, marchnata a chysylltiadau cwsmeriaid. 
 

 

 

 

 

Gair i Gall

Gall BREUDDWYDION ddangos i ble rydych chi eisiau mynd - ond dim ond CYNLLUNIAU cyraeddadwy fydd yn eich galluogi i gyrraedd yno!

Stephen Garrett
John
  • Enw
    Stephen Garrett
  • Enw'r busnes
    RCMA Social Enterprise Ltd
  • Rôl
    Sylfaenydd/Aelod o'r Bwrdd
  • Lleoliad
    Caerdydd