Tim James

Cyn ymuno â’r maes perfformiad personol a busnes, cefndir Tim oedd rheolaeth a gofal cwsmeriaid mewn rhan o gwmni hedfan rhyngwladol mawr. Daeth i fyd ymgynghori, coetsio a hyfforddi drwy ei brofiad o arwain timau a phrosiectau mewn amgylchedd heriol sy’n newid drwy’r amser. Bellach, gyda dros 27 mlynedd o brofiad yn y DU ac yn fyd-eang, mae'n hyfforddi, ymgynghori, ac yn cynghori unigolion allweddol mewn ystod eang o sefydliadau ac mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn busnesau newydd sbon a busnesau llai sy'n datblygu.

Un o hoff feysydd ymchwil Tim yw arweinyddiaeth a pherfformiad personol. Mae wedi gweithio ar y lefel uchaf yn helpu unigolion i ddiffinio eu gweledigaeth, strategaethau a chynlluniau ar gyfer trawsnewid a thyfu’r busnes. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn sut mae angen i fusnesau, a’u harweinwyr, addasu a newid yn gyson wrth iddynt symud trwy wahanol gamau o dwf ac aeddfedrwydd sefydliadol.

Tim yw Rheolwr Gyfarwyddwr DNA Coaching, ymgynghoriaeth arbenigol sy'n canolbwyntio ar fesur a gwella perfformiad dynol. Mae'n aelod o’r Gymdeithas Addysg a Datblygiad Rheolaeth, yn ogystal â’r Sefydliad Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Mae Tim yn Arbenigwr Twf Busnes cofrestredig yn helpu BBaChau yn y DU i ddatblygu eu potensial, ac mae hefyd yn fentor a hyfforddwr ar gyfer grŵp amrywiol o Uwch Swyddogion Gweithredol cwmnïau blaenllaw yn y DU ac yn fyd-eang.

Y tu allan i’w fywyd proffesiynol, mae Tim yn llywio Bad Achub Pob Tywydd yr RNLI a hefyd yn Llywiwr ac Uwch Hyfforddwr ar gyfer Bad Achub Ymateb Cyflym y Glannau. Mae wedi derbyn dwy gymeradwyaeth yn ogystal â gwobr ranbarthol o fri am ei wasanaeth hyd yn hyn. Mae’r ymroddiad llawn amser 24/7 hwn pan nad yw’n gweithio i ffwrdd ar fusnes yn parhau i roi cipolwg gwerthfawr ar sut mae pobl a grwpiau yn ymddwyn yn y sefyllfaoedd mwyaf eithafol a heriol yn aml iawn.

Mae Tim yn byw yn y gogledd, yn briod gyda thri o blant, ac mae'n gogydd, morwr, sgïwr, teithwyr a hyfforddwr cŵn brwd. Mae hefyd wedi bod yn Ymddiriedolwr a Chyfarwyddwr Gweithredol hynod weithgar ar gyfer yr elusen iechyd meddwl MIND yn ei ardal leol.

Gair i Gall

Gwrandewch, oedwch, dysgwch ac addaswch! Gwella drwy’r amser drwy herio’ch hun a phwyso a mesur yn rheolaidd.

Tim James
  • Enw
    Tim James
  • Rôl
    Rheolwr Gyfarwyddwr
  • Lleoliad
    Conwy