Tom White

Ar ôl graddio gyda Gradd Busnes (Marchnata) yn 1985 ymunais â’r sector Manwerthu yn Iwerddon (Tesco) yn 1986 ble cefais sawl swydd uwch hyd at fod yn Gyfarwyddwr Gwerthu a Datblygu yn 2002 cyn ymgymryd â swydd werthu uwch gyda’r Grŵp Bwyd Almarai yn Saudi Arabia.

Yn 2011 cymerais y swydd Pennaeth Trawsnewid Busnes yn ogystal â swydd Pennaeth y Grŵp Cadwyn Gyflenwi yn gyfrifol am integreiddio gweithgareddau’r Gadwyn Gyflenwi yn ymwneud â chynnyrch llaeth, sudd, y siop fara a’r fferm ieir.

Yn 2017 ymunais a’r grŵp Danone fel is lywydd y Gadwyn Gyflenwi ar gyfer y Dwyrain Canol yn ogystal â Chyfarwyddwr Masnachol Saudi Arabia, cyn derbyn rôl fel Prif Swyddog Gweithredol ar gyfer Diwydiannau Bwyd Baladna yn 2019, swydd oedd wedi’i lleoli yn Nhalaith Qatar ac yn golygu fy mod yn gyfrifol am Werthu, Marchnata, Gweithgynhyrchu, Caffael a’r Gadwyn Gyflenwi.

Rwyf wrth fy modd fy mod yn rhan o raglen fentora Busnes Cymru….

 

Gair i Gall

Gwnewch y pethau cyffredin yn anghyffredin o dda.

Tom White
Tom
  • Enw
    Tom White
  • Enw'r busnes
    Baladna Food Industries
  • Rôl
    Prif Swyddog Gweithredu
  • Lleoliad
    Sir y Fflint