Tracy Jones

Fel cyn-gyfrifydd, mae Tracy’n gweld bod ganddi ddawn naturiol am weithio gyda thimau ac unigolion yn y byd corfforaethol. O berchennog-reolwyr i swyddogion gweithredol sefydliadau mawr, mae digon o gyfle i wella perfformiad busnes o wella’ch meddylfryd.

Mae galw mawr am wasanaethau Tracy fel anogwr a hyfforddwr sy’n arbenigo mewn adeiladu a thyfu busnesau iach a ffyniannus. Gydag ugain mlynedd a mwy o brofiad mae hi wedi mentora a hyfforddi busnesau newydd-sefydledig a gweithwyr proffesiynol.

Mae'n enwog am ei hegni a'i dull rhyngweithiol ac ysbrydoledig, gan greu newid a chanlyniadau cynaliadwy ar gyfer ei chleientiaid ac mae wedi gweithio gydag ystod eang o unigolion a busnesau o berchnogion/rheolwyr i gyfarwyddwyr cwmnïau. Mae Tracy’n mynd i wraidd y mater yn gyflym ac mae’n adnabyddus am ei dull syml a di-lol, sy’n cyfuno arfau ymarferol gyda phrofiad profedig.

Mae Tracy yn hypnotherapydd clinigol cymwysedig hefyd, ac mae'n gweld pobl am bob math o bethau, ond mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn ffrwythlondeb a geni (gan gynnwys hypnobirthing).

Mae Tracy wedi cyfuno ei dau ddiddordeb pennaf (busnes a therapi cyflenwol) yn ei busnes ei hun, Rethink and Do, sy'n cynnig cymuned, rhwydweithio, mentora, hyfforddiant a chymorth busnes i therapyddion cyflenwol ac ymarferwyr iechyd ar draws y DU.

Gan rannu ei hangerdd am fusnes ar ei rhaglen radio, Talking Business ar Calon FM, mae Tracy’n siarad â phobl busnes leol am eu busnesau ac am eu hunain, gan ganolbwyntio ar yr heriau maent yn eu hwynebu a beth sy'n eu hysgogi ac yn eu hysbrydoli fel pobl busnes.

Yn ogystal â bod yn fentor i Busnes Cymru, mae gan Tracy flynyddoedd lawer o brofiad o ddarparu mentora a chymorth busnes i bobl ifanc, sy’n dechrau arni yn y byd busnes.

 

  • Enw
    Tracy Jones
  • Rôl
    Cyfarwyddwr
  • Lleoliad
    Wrecsam