William Davies

Cyn symud yn ôl i Gymru yn 2010, William oedd Pennaeth TG ar gyfer Ewrop a'r Dwyrain Canol, yn gweithio yn Llundain ar gyfer AIG Investments, cwmni buddsoddi ariannol. Cylch gwaith William oedd rheoli a gweithredu'r seilwaith dechnoleg, a’i weithlu ar gyfer swyddfeydd Llundain, Madrid, Milan, Frankfurt, Berlin, Faro, Palma, Moscow, Dubai, Amsterdam, Vilnius, Bratislava, Strasbourg, Berlin, a Dulyn.

Gyda phrofiad o greu a rhedeg busnesau technoleg am nifer o flynyddoedd, ochr yn ochr â gwybodaeth werthfawr o’i gyfnod mewn corfforaethau amlwladol a banciau buddsoddi, mae William yn falch o allu cynnig y profiad hwn a'r wybodaeth hon i bobl anhygoel Cymru sydd angen help llaw, a hefyd i’w helpu i godi safonau i'r lefelau gorau y gall unigolyn neu sefydliad eu cynnig.

Mae cael profiad mewn busnesau rheoli a gosod eiddo, a rhywfaint o brofiad manwerthu, a bod ar flaen y gad o ran syniadau ffres a thueddiadau busnes ar brydiau, wedi helpu William i ddatblygu ei fusnesau ei hun a helpu eraill ar hyd y ffordd.

Y tu allan i'r gwaith, mae’n frwdfrydig am DIY, ac mae wrthi ar hyn o bryd yn adeiladu’r ail estyniad i’w gartref, ochr yn ochr â threulio llawer gormod o amser yn prynu a gyrru gwahanol gerbydau.

Ym mywyd cynnar William, mae wedi gweithio fel cynorthwyydd trydanwr, gweithredwr ciosg byrgyrs, gweithiwr gwacau peiriannau arcêd a rheolwr ansawdd ar gyfer cwmni electroneg. Mae hefyd wedi atgyweirio setiau teledu a pheiriannau fideo, gosod systemau teledu Sky, a hyd yn oed wedi gweithio yn siopau bwydydd rhew Iceland.

Mae gan William sawl cymhwyster City & Guilds mewn electroneg ddigidol, ac astudiodd yn y gogledd am Ddiploma Cenedlaethol, ond ers hynny mae wedi ennill statws Ymarferydd Prince 2 ochr yn ochr â llawer o gymwysterau eraill yn ei grefft.

Mae'n awyddus i bwysleisio nad yw addysg brifysgol yn allweddol i lwyddiant.

Gair i Gall

"Pan fyddwch chi'n cwblhau 75% o brosiect, dechreuwch freuddwydio am yr un nesaf."

William Davies
  • Enw
    William Davies
  • Rôl
    Rheolwr Gyfarwyddwr
  • Lleoliad
    Sir Ddinbych