Xavier Quayzin

Mae gen i brofiad helaeth o ddenu busnes newydd a datblygu galluoedd mewn marchnadoedd hen a newydd (gan gynnwys allforio) ar gyfer cwmnïau ac ymgyngoriaethau technoleg a pheirianneg. Rydw i ar dân eisiau helpu busnesau i dyfu a chyflawni eu nodau strategol.

Rydw i hefyd yn Weithiwr Diogelwch Proffesiynol profiadol, gyda phymtheg mlynedd a mwy o brofiad mewn diwydiant lle mae diogelwch yn hollbwysig. Rydw i’n awyddus i helpu busnesau a phrosiectau i sicrhau bod diogelwch yn cael ei arwain a'i roi ar waith yn effeithlon.

Rydw i wedi rheoli timau o hyd at 30 o ymgynghorwyr ac wedi gweithio yn y sectorau Rheilffyrdd, Amddiffyn, Awyrennau a Niwclear.

Gydag MBA yn ogystal â bod yn Beiriannydd Siartredig, rydw i bob amser wedi cyfuno fy sgiliau technegol gyda sgiliau rheoli busnes i helpu cwmnïau technoleg i gyflawni eu potensial.

  • Enw
    Xavier Quayzin
  • Rôl
    Cyfarwyddwr
  • Lleoliad
    Bro Morgannwg