Zoë Binning

Rwy’n entrepreneur yn y diwydiant priodasau, ac mae gennyf brofiad o fod yn rheolwr busnes ac ymgynghorydd lleoliadau priodas Cymreig. Yn ogystal â chynyddu nifer yr archebion priodasau a gyrru proffidioldeb ar gyfer lleoliadau priodas Cymreig, rwy’n arbenigo mewn gwasanaethau priodas cynaliadwy a moesol ac arfer gorau drwy fy nwy fenter busnes: Wild Roots Kitchen a Bar and Green Manatee.

Yn fwy eang na hynny, rwy’n teimlo’n gryf dros gefnogi lleoliadau priodas a chyplau wrth iddynt gymryd camau at arferion priodas mwy cynaliadwy, yn ogystal ag arwain lleoliadau i wasanaethu cyplau LGBTQ+ yn well.

?Siaradwr Cyhoeddus – Materion Priodas a Chynaliadwyedd
?Ymgynghorydd a Chyflenwr Priodasau Cynaliadwy
?Arbenigwr Lleoliadau Priodas Cymreig yn White Label Catering
? Ymgynghorydd Priodas Profiadol
?Rheoli Lleoliadau Priodas

 

Gair i Gall

1.    Mwynhewch eich gwaith! Os nad yw eich diddordeb a’ch brwdfrydedd yn gwneud i chi neidio o’r gwely yn y bore, hyd yn oed ar ddiwrnodau heriol, ni allwch oroesi!
2.    Mae’n RHAID i chi wneud eich gwaith yn well na phawb arall! Os nad chi yw’r gorau o fewn eich maes, dysgwch sut i fod ar y brig ac ewch amdani! Bob amser!

Zoë Binning
Zoe
  • Enw
    Zoë Binning
  • Enw'r busnes
    Zoë Binning Ltd.
  • Rôl
    Rheolwr Busnes Lleoliad Priodas ac ymgynghorydd priodasau Cymreig
  • Lleoliad
    Rhondda Cynon Taff