Fandaliaeth

Vandalism

Diffinnir fandaliaeth fel difrodi’n fwriadol eiddo cyhoeddus a phreifat. Ar eiddo preifat, y ffurf fwyaf cyffredin o fandaliaeth yw torri ffenestri a graffiti. 

Effeithiau

Er nad yw hyn yn golygu llawer i fusnesau, heblaw costau glanhau a gosod gwydr newydd mewn ffenestri, mae’n effeithio ar y gymuned ehangach. Mae’r Ddamcaniaeth Torri Ffenestri yn dweud, os yw fandaliaid yn torri rhai ffenestri, ac os nad yw’r ffenestri hynny’n cael eu trwsio, yna mae ychydig yn rhagor o ffenestri yn cael eu torri. Yna, mae’r eiddo’n cael ei fwrglera. Gallai hyn gynyddu ac arwain at sgwatio. 

Rhwystro

Drwy fuddsoddi mewn ffenestri gwydr dwbl a phaent gwrth fandaliaid, gall busnesau rwystro’r troseddau hyn. Fe allan nhw hefyd newid eu hagwedd at y math yma o droseddau. Efallai nad yw graffiti, er yn edrych yn flêr, yn cael ei weld yn broblem enfawr i fusnesau gan nad yw o angenrheidrwydd yn effeithio arnyn nhw’n uniongyrchol, ond dylid ei gymryd o ddifrif rhag iddo arwain at ragor o broblemau. 

Riportio

Ffoniwch eich Heddlu lleol ar 101. Ond, mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro. 101 yw'r rhif i'w ffonio os, er enghraifft: 

  • mae cerbyd wedi’i ladrata
  • mae eiddo wedi’i ddifrodi
  • i gyflwyno gwybodaeth ynghylch trosedd arall

Gellir defnyddio’r rhif i riportio digwyddiad nad yw'n argyfwng i unrhyw Heddlu yng Nghymru. Mae ffonio 101 o linellau tir a rhwydweithiau ffonau symudol yn costio 15 ceiniog yr alwad, ar unrhyw adeg o'r dydd a pha mor hir bynnag y byddwch ar y ffôn. 

Mewn argyfwng deialwch 999 bob tro. Mae hynny pan mae gofyn gweithredu ar unwaith, megis: 

  • bod trosedd yn y broses o gael ei gyflawni
  • mae rhywun gerllaw sy’n cael ei amau o drosedd 
  • mae bywyd rhywun mewn perygl
  • mae rhywun wedi’i anafu
  • mae trais yn cael ei ddefnyddio neu ei fygwth

More info/downloads