Troseddau Ffermio a Gwledig

Locking a door

Diffinnir troseddau gwledig fel lladrata offer, peiriannau neu dda byw o ffermydd neu droseddau megis lladrata neu fyrgleriaeth sy'n cael ei gofnodi ar ffermydd neu ar eiddo’n gysylltiedig â ffermydd.  

Effeithiau

Yr effaith fwyaf ar fusnesau fferm yw colli offer a da byw gwerthfawr.  Bydd yn rhaid i ffermwyr dalu’n ddrud i gael offer neu dda byw yn eu lle, ac mae'n golygu colli cynhyrchiant a refeniw. 

Rhwystro

Sicrhau fod cloeau diogel, safon BSI, ar bob adeilad fferm lle mae offer gwerthfawr yn cael ei gadw.  Marcio offer gydag enw a chôd post y fferm, efallai gyda phen UV, fel y gellir ei olrhain.  Mae sicrhau y gellir canfod o ba fferm y daw da byw hefyd yn hynod o bwysig. 

Riportio

Ffoniwch eich Heddlu lleol ar 101. Ond, mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro. 101 yw'r rhif i'w ffonio os, er enghraifft: 

  • mae cerbyd wedi’i ladrata
  • mae eiddo wedi’i ddifrodi
  • i gyflwyno gwybodaeth ynghylch trosedd arall

Gellir defnyddio’r rhif i riportio digwyddiad nad yw'n argyfwng i unrhyw Heddlu yng Nghymru.  Mae ffonio 101 o linellau tir a rhwydweithiau ffonau symudol yn costio 15 ceiniog yr alwad, ar unrhyw adeg o'r dydd a pha mor hir bynnag y byddwch ar y ffôn. 

Mewn argyfwng deialwch 999 bob tro. Mae hynny pan mae gofyn gweithredu ar unwaith, megis: 

  • bod trosedd yn y broses o gael ei gyflawni
  • mae rhywun gerllaw sy’n cael ei amau o drosedd 
  • mae bywyd rhywun mewn perygl
  • mae rhywun wedi’i anafu
  • mae trais yn cael ei ddefnyddio neu ei fygwth

Rhagor o wybodaeth/llawrlwytho