Hysbysiad Preifatrwydd - Mentora
Er mwyn derbyn Cymorth Mentora neu fod yn rhan o’r gwasanaeth Mentora Busnes Cymru, mae'n ofynnol i ni gasglu gwybodaeth oddi wrthych.
Mae’r wybodaeth hyn yn cynnwys gwybodaeth bersonol a gwybodaeth fusnes berthnasol a fydd yn ein galluogi ni i roi cyngor a gwybodaeth briodol i chi. Bydd methu â darparu'r wybodaeth hyn i ni yn eich atal rhag cael mynediad i'r gwasanaeth.
Yr hyn sydd ei angen arnom
Mae'r wybodaeth a gasglwyd yn cynnwys enw, cyfeiriad, gwybodaeth gyswllt a gwybodaeth amdanoch a’ch busnes yn ogystal â gwybodaeth ddemograffig sy'n helpu gyda proses paru Mentora Busnes Cymru.
Pam mae arnom ei angen
Bydd yr holl wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei storio a'i ddefnyddio yn unol â'r Rheoliadau Gwarchod Data Cyffredinol (GDPR) a Deddf Diogelu Data 1998.
Cesglir y data er mwyn galluogi ni i baru Mentai gyda Montor yn effeithiol.
Hefyd, mae gwybodaeth yn cael ei chasglu a'i gadw i helpu Llywodraeth Cymru i ystyried y ffyrdd gorau y gall ddarparu cymorth ac arweiniad busnes priodol i chi a'ch busnes.
Gallai hyn gynnwys eich manylion cyswllt neu wybodaeth neu wybodaeth busnes a wybodaeth demograffeg.
Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i ofyn am eich caniatâd i ddefnyddio'ch manylion busnes ar gyfer gweithgareddau marchnata Busnes Cymru. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'ch data heb eich caniatâd at y pwrpas penodol hwn.
Pwy arall sy'n ei weld?
Rhennir y wybodaeth a gesglir gyda'r sefydliadau canlynol at y dibenion a restrir isod –
- Contractwyr Busnes Cymru sy'n cyflwyno'r gwasanaeth i chi
- Gan sefydliadau ymchwil cymdeithasol cymeradwy, i gynnal gwaith ymchwil, dadansoddi neu fonitro cyfle cyfartal i wasanaeth Busnes Cymru
Yr hyn a wnawn ag ef
- Defnyddiwn y wybodaeth rhydych yn ddarparu i alluogi asiant Mentora i ffeindio’r Mentai neu Mentor orau i chi.
- Monitro ac adrodd ar nifer yr Mentai a Mentorau sy'n cymryd rhan mewn prosiectau a nifer y bobl o wahanol grwpiau sy'n cael eu cefnogi (e.e. oedrannau, pobl ifanc ac ethnigau gwahanol).
- Sylwch fydd sefydliadau / gwerthuswyr ymchwil yn cysylltu â sampl fach o unigolion a / neu fentrau yn unig. Os cysylltir â chi i gymryd rhan mewn unrhyw ymchwil / gwerthusiad am eich profiad ar y prosiect, eglurir pwrpas y cyfweliad neu'r arolwg i chi a rhoddir yr opsiwn i chi ddweud ie neu na i gymryd rhan. Dim ond ar gyfer ymchwil a gymeradwyir y bydd eich manylion cyswllt yn cael eu defnyddio a chaiff ei ddileu unwaith y bydd yr ymchwil gymeradwy hyn wedi'i chwblhau.
Pa mor hir ydyn ni'n ei gadw?
Mae'n ofynnol i ni o dan ddeddfwriaeth Cymorth Gwladwriaethol i gadw eich data personol am o leiaf 10 mlynedd ar ôl i'r prosiect ddod i ben. Ar ôl hynny bydd yn cael ei ddinistrio'n ddiogel.
Beth yw eich hawliau?
Mae'r Rheoliadau Gwarchod Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau penodol i unigolion mewn perthynas â'r data personol a ddelir arnynt.
Os nad ydych chi'n credu bod y wybodaeth yr ydym yn ei brosesu arnoch chi yn anghywir, gallwch wneud cais i weld y wybodaeth hyn a hyd yn oed ei gywiro neu ei ddileu. Os hoffech godi cwyn ar sut yr ydym wedi trin eich data personol, gallwch gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data a fydd yn ymchwilio i'r mater.
Os nad ydych yn fodlon â'n hymateb neu os ydym yn credu ein bod yn prosesu eich data personol, nid yn unol â'r gyfraith y gallwch gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).
Ein Swyddog Diogelu Data yw -
Llywodraeth Cymru yw rheolwr data ar gyfer unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych.
Rhagor o wybodaeth
Am ragor o wybodaeth am y data personol a gesglir a'i ddefnydd ac os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch cywirdeb data personol neu os ydych am arfer unrhyw un o'ch hawliau dan y Rheoliadau Gwarchod Data Cyffredinol (GDPR) dylech gysylltu â:
Busnes Cymru
Sarn Mynach
Cyffordd Llandudno
LL31 9RZ
Ffôn: 03000 6 03000
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn
Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Caerdydd,
CF10 3NQ.
E-bost: dataprotectionofficer@llyw.cymru.
I gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, gweler y manylion isod:
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru
2nd Floor,
Churchill House
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
Ffôn: 029 2067 8400
Ffacs: 029 2067 8399
Ebost: wales@ico.org.uk
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg ar 029 2067 8400.