Adam Mokhtar

Adam yw’r arweinydd yn y cwmni ac mae’n arbenigwr ym maes dylunio adeiladu a chydlynu pob disgyblaeth. Mae wedi ymrwymo i genhadaeth Diogel i greu mannau preswyl addas ar gyfer y dyfodol sy’n cynnig ymarferoldeb hirdymor a steil arloesol.  Yn bennaf, mae ganddo feddwl busnes a datblygwr, sy’n sicrhau bod pob cynllun yn rhoi’r gofynion ariannol yn gyntaf.

Bu’n gweithio’n flaenorol mewn swyddi gwerthu a rheoli yn BT a TalkTalk Business, yn ogystal â gweithio fel cyfarwyddwr sefydlu cwmni pensaernïol a ddatblygwyd hyd at 13 aelod o staff, gan gwblhau prosiectau ym Maes Awyr Heathrow a chynlluniau gwerth miliynau o bunnoedd yn y DU. Yn y swydd hon roedd yn aelod a wahoddwyd yn aml i baneli Cyngor Lerpwl ynghylch pynciau’r diwydiant adeiladu a chyhoeddodd erthyglau ar gyfer The Echo a The Essential Journal.  

Yn olaf, ar ôl bod yn y busnes cerddoriaeth ers deng mlynedd, ac yn nodedig, chwarae yn yr MEN Arena, a chlywed “na” mwy o weithiau nag y mae’r rhan fwyaf o bobl wedi ei glywed mewn oes, mae gwydnwch ac agwedd o feddwl agored yn rhan greiddiol o’i fywyd bob dydd. 
 

""
  • Enw
    Adam Mokhtar
  • Enw'r busnes
    Diogel Architecture
  • Rôl
    Perchennog
  • Lleoliad
    Cymru