Adrian Merrett

Dros 20 mlynedd datblygais yrfa gref a chadarn gyda Xerox mewn uwch swyddi rheoli gwahanol. Mae gennyf set amrywiol o sgiliau trosglwyddadwy a phrofiad helaeth y gallaf ei ddefnyddio i helpu eraill. Rwy’n weithiwr busnes proffesiynol brwdfrydig, profiadol, arweinydd hyderus a chyfathrebydd ysbrydoledig. Mae gennyf hanes blaenorol o wasanaethu a rheoli cyfrifon ar lefel cenedlaethol a byd-eang yn effeithiol, rhagori ar nodau perfformiad a phlesio cwsmeriaid. Gyda chefndir cryf mewn gweithrediadau a rhagoriaeth gwasanaeth, rwy’n arwain a datblygu fy nhimau’n llwyddiannus drwy hyfforddiant a mentora i sicrhau’r perfformiad gorau a chyflawni’r canlyniadau y dymunir. Fel gwerthwr sy’n perfformio ar y lefel uchaf ac enillydd sawl gwobr, mae gennyf brofiad wrth adeiladu perthnasoedd cryf y gellir ymddiried ynddynt ar bob lefel gyda chwsmeriaid a chydweithwyr fel ei gilydd. Rwy’n defnyddio fy ngallu masnachol i gynyddu nifer y contractau, arbedion cost a gwerth mesuradwy i’r ddau barti. Rwy’n datblygu a rheoli rhaglenni gwella gwasanaeth parhaus, gan wthio’r ffiniau drwy ddefnyddio fy nghreadigrwydd i ddatrys problemau’n arloesol a dylanwadu ar newid. Mae bod yn angerddol dros ddarparu’r profiad gorau posibl i’r cleient yn fy ngalluogi i greu ac adeiladu datrysiadau rheoli gwasanaeth cwsmeriaid lle nodir problemau a bylchau a datblygir cynllun gwella gwasanaeth strategol i fynd i’r afael â’r problemau a’u datrys.

Gofynnwch i chi’ch hun......
A yw eich cwsmeriaid yn fodlon? Sut ydych chi’n gwybod? Sut ydych chi’n mesur boddhad cwsmeriaid? Beth ydych chi’n ei wneud i fonitro perfformiad gwasanaeth yn rheolaidd? Sut ydych chi’n gwella boddhad cwsmeriaid i alluogi twf refeniw proffidiol ar gyfer eich busnes? A ydych chi wedi gofyn am adborth cwsmeriaid ar beth y gellid ei wella?
A oes gennych brosesau gweithredol yn eu lle i sicrhau cysondeb a pharhad?
A oes gennych gynllun adfer ar ôl trychineb pe bai rhywbeth mawr yn digwydd?
Os ydych chi’n cael trafferth i ateb unrhyw un o’r cwestiynau hyn yna gadewch i mi eich helpu. *Mae fy mhroffil llawn ar gael ar LinkedIn

Gair i Gall

Peidiwch â chymryd eich cwsmeriaid yn ganiataol. Heb gwsmeriaid, nid oes busnes.

Adrian Merrett
Adrian
  • Enw
    Adrian Merrett
  • Rôl
    Independent Business Advisor
  • Lleoliad
    Monmouthshire