Adrian T. Barsby

Helo, mae’n bleser gen i fod yn fentor gyda Busnes Cymru.

Rwy’n uwch-weithredwr lletygarwch a thwristiaeth gyda phrofiad aml-safle, aml-frand a phrofiad o droi pethau o gwmpas. Rwy'n rhagori ar gynorthwyo gyda chreu timau o’r radd flaenaf â ffocws ar ansawdd a rhagori ar ddisgwyliadau: sicrhau elw i fuddsoddwyr ac adeiladu gwerth brandiau. Mae fy nghryfderau allweddol yn cynnwys: arweinyddiaeth bendant, sgiliau rheoli dadansoddol a strategol, cyfathrebu’n gryno ac yn onest mewn arddull difyr sy'n ennyn hyder.

Ers sefydlu Barsby Associates yn 2007 rydw i wedi gweithio gyda mwy na 150 o fentrau, gan gynnwys busnesau newydd. Mae arbenigedd wedi cynnwys codi arian ar gyfer ehangu, cyfranddalwyr yn prynu busnesau, dechrau busnes ac ail-fuddsoddi, cynorthwyo cwmnïau i ehangu a gwella systemau mewnol. Rydw i hefyd wedi helpu nifer o berchnogion i gynllunio'n llwyddiannus ar gyfer olyniaeth a/neu ymadael.

Mae gen i brofiad o weithio gydag ystod eang o fentrau; o berchnogaeth gymhleth grŵp o westai i fusnes gwely a brecwast boutique arobryn. Rydw i hefyd wedi mentora/hyfforddi perchnogion: Bythynnod Gwyliau, Meysydd Carafannau a Hamdden Moethus, Cyrsiau Golff, Tafarnau, Bwytai, Atyniadau, Pentrefi Gwyliau, Rhentu Hen Gerbydau, Gwestai Brand, Grwpiau Gwestai, Gwestai Moethus. Mae fy rôl uwch weithredol mewn cwmnïau gwestai preifat aml-safle hefyd wedi helpu i sicrhau fy mod yn ymwybodol o dueddiadau cyfredol, datblygiadau yn y diwydiant a materion y byd go iawn ledled y DU/Ewrop sy'n effeithio ar broffidioldeb, ennill a chynnal cyfran o'r farchnad a gwerth cyfranddalwyr.

Am y 20 mlynedd diwethaf rydw i wedi bod yn gwneud gwaith ymgynghori tramor ar gyfer datblygu twristiaeth ranbarthol yn ogystal â chyflwyno seminarau a darlithoedd ar ran y Savoy Trust ledled Dwyrain Ewrop. Rydw i’n Ddarlithydd Cyswllt ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion mewn pynciau yn cynnwys: Strategaethau Marchnata Cystadleuol Rhyngwladol, Rheoli Twristiaeth yn Strategol, Arloesedd, Creadigrwydd ac Entrepreneuriaeth.

Mae gen i brofiad helaeth hefyd gyda phartneriaethau yn y sector cyhoeddus a phreifat, mudiadau aelodaeth a’r sectorau dielw ac elusennol fel cadeirydd, ymddiriedolwr, cyfarwyddwr, aelod panel a gwirfoddolwr.

Gair i Gall

Deall safle yn y farchnad, segmentiad cwsmeriaid a rheoli llif arian parod.

Adrian T. Barsby
Adrian T. Barsby
  • Enw
    Adrian T. Barsby
  • Rôl
    Rheolwr Gyfarwyddwr
  • Lleoliad
    Flintshire