Alan Morgan
Cyn ymddeol (yn 2014) roeddwn yn Rheolwr Gyfarwyddwr ar gwmni maint canolig yn Ne Cymru am 20+ o flynyddoedd ar ôl dilyn gyrfa mewn swyddi gweithgynhyrchu a rheoli gwerthiant, yn ogystal â swyddi cyllid uwch (cymwysedig FCMA) cyn hynny.
Mae gennyf brofiad helaeth mewn allforio yn Ewrop a’r Unol Daleithiau, ac rwyf wedi teithio’n eang yn y marchnadoedd hyn a mannau eraill ledled y byd.
Mae fy sgiliau craidd yn adlewyrchu fy mhrofiad gyrfaol amrywiol ac rwyf â’r gallu i gyfathrebu fy ngwybodaeth ymarferol er budd rheolwyr BBaCh sy’n ceisio datblygu strategaeth fusnes, gan gynnig cyngor, arweiniad a “seinfwrdd” ar gyfer syniadau.
Mae gennyf sgiliau rhyngbersonol da ac rwy’n mwynhau rhannu sialensiau a gweithio ar y cyd i geisio datrys problemau a datblygu syniadau.
Ers ymddeol, rwyf wedi parhau i ymwneud â busnesau drwy fentora i Busnes Cymru, darparu ymgynghoriaeth busnes personol ac eistedd fel aelod bwrdd anweithredol o ffederasiwn masnachu cenedlaethol yn y DU gyda 1500+ o gwmnïau yn aelodau ohono.
Fel Cymro, rwy’n frwdfrydig ynghylch annog a datblygu busnesau yng Nghymru a mynd i’r afael â’r heriau a ddaw i’m sylw gydag agwedd gadarnhaol a rhagweithiol.
-
EnwAlan Morgan
-
Enw'r busnesAM Projects
-
RôlPerchennog
-
LleoliadSir Fynwy