Alison Payne

Helo!
Rwy’n gobeithio y gallaf eich helpu i fynd â’ch busnes i’r cam nesaf.
Er bod gennyf MBA a Diploma Lefel 7 ILM mewn Hyfforddi a Mentora Gweithredol, rwy’n credu y byddwch yn canfod mai fy mhrofiad o redeg a thyfu sefydliadau mor amrywiol â chwmni gofal iechyd, cymdeithas masnach adeiladu ac ymgynghoriaeth, sydd o fudd ymarferol, gwirioneddol.

Mae pobl yn fy nghyflogi i’w helpu i weld eu nodau yn fwy clir ac yna i’w helpu i gymryd y camau y maent angen eu cymryd. Byddaf yn defnyddio fy mhrofiad busnes i’ch helpu i gymryd y camau cywir ar yr amser iawn a fy null hyfforddi cyfeillgar i sicrhau eich bod yn cymryd cyfrifoldeb mewn modd cwrtais ond pendant, fel bod cynnydd yn cael ei wneud.

Ers gadael byd y ccc mawr, rwyf wedi gweithio gyda chwmnïau mor amrywiol ag unig fasnachwyr a Brandiau Cenedlaethol blaenllaw (e.e. BUPA). Rwyf wedi cefnogi cwmnïau mewn ystod o ddiwydiannau ac rwy’n credu bod gan bawb rhywbeth gwych i’w gynnig, yn syml mae’n fater o ddarganfod a chyhoeddi’n agored yr hyn sydd gennych.

Gair i Gall

Gwnewch rywbeth yr ydych yn angerddol drosto a derbyniwch fod methiant yn borth ar y llwybr i Lwyddiant.

Alison Payne
Payne
  • Enw
    Alison Payne
  • Enw'r busnes
    ARP Associates Ltd
  • Rôl
    MD
  • Lleoliad
    Cymru