Andy Carr

Rwy’n mentora’n rhan amser yng Nghymru ac o amgylch fy mhrif rôl yn y diwydiant cyfryngau sydd wedi ei leoli yn Llundain.   Mae’r egni yn ystod y cyfnod cynharaf o gychwyn busnesau newydd yn heintus ac y mae’n amser ble y gall fy nghyngor gael yr effaith fwyaf.   

Mae pob busnes yn unigryw, o fynd ar drywydd lansiad eich cynnyrch cyntaf i sgoriau ap pum seren neu hyd yn oed dyfiant organig hen ffasiwn.  Mae fy mhrofiad i’n helaeth, o werthu cynnyrch i fanwerthwyr mwyaf y DU i werthu gwasanaethau i gleientiaid menter.   Rwyf wedi creu siopau e-fasnach ac wedi sefydlu lleoliadau logisteg a gweithgynhyrchu.   Rwyf wedi codi arian, denu buddsoddwyr, cael fy herio â’r frwydr rhwng tyfiant organig a’r camau newid mewn cynllunio a gweithredu busnes. 

Profais fethiant yn ogystal â llwyddiant.  Methu’n gyflym a dysgu’n sydyn yw un o’r gwersi pwysicaf i’w dysgu.   Mae’r cynlluniau gorau wastad yn mynd o chwith; meddu ar y sgiliau, diwylliant, DNA a’r gwytnwch i fynd i’r afael â’r adegau diffiniol hyn yw’r peth fydd yn eich arwain at lwyddiant.

Rwyf wedi treulio y rhan helaethaf o’m gyrfa yn cysylltu strategaethau cynnyrch neu wasanaethau i anghenion, dymuniadau neu gyfyngiadau busnes.  Mae gennyf gefndir cryf mewn electroneg defnyddwyr, gan weithio ar hyd cylch bywyd y cynnyrch o’r crud i’r bedd.   Mae cynnyrch defnyddwyr wedi esblygu o fod yn wrthrychau diriaethol i fod yn apiau, seilwaith a gwasanaethau tu cefn gydag integriadau.  Ac mae’r diwydiant yn tyfu unwaith eto i wynebu’r heriau a manteisio ar gyfleoedd yr economi gylchol.   Mae angen strategaeth Sero Net ar bob busnes; mae hynny’n fwy na phrynu mewn i strategaeth wyrddgalchu.

Mae gennyf rwydwaith eang ac amrywiol o gyd-weithwyr ac arbenigwyr diwydiant y gallaf fanteisio arnynt i helpu fy nghleientiaid.

 

Carr
  • Enw
    Andy Carr
  • Enw'r busnes
    NextFriday Ltd
  • Rôl
    Mentor
  • Lleoliad
    Brecon Cymru