Beverley Jones

Mae Beverley Jones yn disgrifio 2009 fel ei 'annus horribilis'; y flwyddyn pan aeth ei gyrfa gorfforaethol 30 mlynedd i’r gwellt pan gafodd ddiagnosis o iselder a gorbryder. Cymrodd flwyddyn i wella, ac ym mis Awst 2010 agorodd ddrysau ei busnes hyfforddi, Awaken. Yn sgil ei phrofiad, mae Beverley bellach yn byw ei gweledigaeth a’i breuddwyd o fod yn awdur cyhoeddedig a pherchennog busnes llwyddiannus. Fel hyn mae hi’n parhau i helpu llawer o bobl eraill i ddeall bod cyfoeth yn dechrau o fewn ac nid yn y byd ffisegol, materol.

Ers hynny, mae wedi gweithio gyda llawer o gleientiaid personol a busnes, gan eu hyfforddi drwy sesiynau un-i-un a gweithdai grŵp. Yn 2012 cyhoeddodd Beverly ‘Made it thru the Rain' yn olrhain ei thaith ysbrydoledig drwy iselder ac at wellhad.

Mae Beverley bellach yn lansio Sioe Busnes De-ddwyrain Cymru 2017 gyda'r nod o gynorthwyo busnesau i gyrraedd eu llawn botensial. Mae ganddi wybodaeth helaeth am y meysydd busnesau bach, corfforaethol a gwasanaethau cyhoeddus, o ganlyniad i’w gwaith fel hyfforddwr a mentor busnesau bach, gall Beverley yn llythrennol ddal eich llaw ar hyd y daith o sefydlu a thyfu busnes o’r dechrau un.

Yn 2017, derbyniodd Beverley wobr Busnes Cymru Llywodraeth Cymru - Rhagoriaeth mewn Mentora, Mentor y Flwyddyn yn cefnogi Busnes Cyfredol mewn seremoni yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd.

Mae Beverley hefyd wrthi’n sefydlu 'Grŵp Rhwydwaith Mentora' yn haf 2017, rhwydwaith gwahanol i’r cyffredin. Os hoffech chi gael y manylion diweddaraf, cysylltwch â Beverley yn contact@awakenlifecoaching.co.uk

 

 

Gair i Gall

Mae bod mewn busnes ychydig fel bod ar reid yn y ffair – pan rydych chi’n disgyn, mae angen i chi ddal eich gafael ychydig yn dynnach.

Beverley Jones
  • Enw
    Beverley Jones
  • Rôl
    Rheolwr Gyfarwyddwr
  • Lleoliad
    Sir Fynwy