Chris Davis

Mae gen i brofiad penodol o fusnesau bach a chanolig. Pam? Oherwydd fy mod wedi llwyddo i greu ac aeddfedu tri busnes gwasanaeth o’r fath fy hun. Felly, nid dim ond ymgynghorydd neu academydd yn rhoi cyngor damcaniaethol o’n i, dwi wedi bod yno fy hun, ac yn hen law ar y broses. Er bod fy musnesau’n rhai tra gwahanol, i mi, mae gofynion craidd rhedeg busnes o’r fath yr un peth. Yn gyntaf, mae’n rhaid talu sylw agos at ‘hanfodion y busnes’, ac yn ail, mae’n rhaid i chi feddwl y tu allan i’r bocs. Mae’n rhaid rheoli’r cyntaf yn gyson ac yn dda, neu cyn bo hir, bydd dim busnes i’w reoli. Ond yn ail, os mai dim ond y cyntaf y byddwch chi’n mynd ati i’w wneud, fe fyddwch chi’n colli allan ar gyfleoedd a all fodoli i newid eich busnes o fod yn fusnes ymylol i un llwyddiannus.

Rhywbeth sy’n allweddol yw fy mod yn deall pwysigrwydd defnyddio safonau sicrwydd ansawdd cydnabyddedig wrth reoli busnes. Mae hyn yn deillio o lwyddo i chwarae rhan yn gweithredu safonau BS5750/ISO 9001 mewn sefydliad masnachol mawr iawn. 

Fy musnes cyntaf un oedd ymgynghoriaeth cynllunio busnes. Beth ddysgais o hynny? Mae angen cynllun busnes ar bob busnes. Felly, fel mentor, rwy’n gallu cydnabod fod angen i fusnes gael cynllun a’i ddefnyddio fel gyrrwr a man cyfeirio parhaus ar gyfer rheoli a thyfu’r busnes. 

Dwi’n deall pwysigrwydd pobl ym myd busnes. Am 6 blynedd, ro’n i’n arwain swyddogaeth AD a hyfforddiant busnes yn y diwydiant adeiladu gyda hyd at 1,000 o weithwyr. Yn y swydd honno, cefais gydnabyddiaeth clodfawr drwy’r safon Buddsoddwyr mewn Pobl.


Dwi’n deall pa mor bwysig yw gwneud mwy na chymhwyso theori i weithrediad bob dydd busnes. Dwi wedi creu ac aeddfedu practis cyfraith gyflogaeth a oedd yn cynnwys cleientiaid o fusnesau bach iawn i gleientiaid cenedlaethol a rhyngwladol. Roedd y llwyddiant hwn yn seiliedig ar argymhellion personol; argymhellion megis - “Mae Chris Davis yn gwneud mwy nag egluro beth yw’r gyfraith, mae’n dweud wrthych beth rydych chi angen ei wneud i ddelio â’r sefyllfa”. Fy ethos yw: “Sut gallaf helpu busnes i fod yn llwyddiannus?”. 

Roedd f’ymdrechion busnes fy hun mor llwyddiannus fel fy mod yn gallu ymddeol yn 52 oed. Ond nid am hir! Ar ôl chwe mis, roedd angen i mi fynd yn ôl at fusnes. Felly, creais fusnes cyfryngiad ar y rhyngrwyd yn canolbwyntio ar werthu FBA ar Amazon ledled Ewrop. Yn 2019, roedd trosiant fy musnes yn €1.1 miliwn gydag elw net o 7%.

Felly i grynhoi - a chanu clod fy hun, rhywbeth sy’n anochel! - bydd y sgiliau hyn yn gymorth i’ch busnes. Rwy’n gyfathrebwr ardderchog gyda sgiliau dadansoddi cryf. Rwyf wrth fy modd yn rhoi datrysiadau ymarferol ar waith o ran problemau busnes. Ochr yn ochr â hyn oll, mae gen i brofiad sylweddol yn datblygu cyfleoedd busnes. 

Edrychaf ymlaen yn fawr at helpu eich busnes!

O, hefyd, mae gen i Radd Anrhydedd yn y Gyfraith ac rwy’n Gymrawd Siartredig o’r Sefydliad Personél a Datblygu Siartredig.
 

Gair i Gall

Gwnewch rywbeth!

Chris Davis
Davis
  • Enw
    Chris Davis
  • Enw'r busnes
    ECAS DEALS
  • Rôl
    Perchennog
  • Lleoliad
    Gwent, Cymru