Damian Joseph Bridgeman

Mae gan Damian ddoniau a phrofiadau amrywiol. Mae wedi gweithio ym mhob sector o fusnes, llywodraeth, addysg, cyfryngau cyhoeddus a phreifat a’r GIG. Mae’n meddu ar BA Anrhydedd mewn Astudiaethau Cymunedol gan ganolbwyntio ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol, MSc mewn Pediatreg ac Iechyd Plant, tystysgrif TAR ôl-raddedig mewn addysg dros 16 oed, ac ILM Lefel 7 mewn Hyfforddi a mentora, ac mae’n ymarferydd ardystiedig gyda Chyngor Mentora a Hyfforddi Ewrop.

Mae Damian wastad wedi bod â diddordeb mewn seicoleg, cwnsela, hyfforddi a mentora, ac wedi gweithio ym maes hyfforddi a mentora. Chwaraeodd Damian ran allweddol mewn Gofal Cymdeithasol, yn enwedig wrth greu a gweithredu’r “ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014”, a’r ddeddf gysylltiedig “Rheoleiddio ac Adolygu 2016”, sef y diwygiadau mwyaf sylweddol a welwyd mewn Gwasanaethau Cymdeithasol.

Mae hefyd wedi cymryd rhan yn Ysgol Haf Academi Cymru fel graddedig, hwylusydd dosbarthiadau a Hyfforddwr ar gyfer mynychwyr. Mae Damian yn hoff o weithio gyda sefydliadau uchelgeisiol i ddatblygu arweinwyr ar gyfer y dyfodol a datblygu eu gallu gan ddefnyddio hyfforddant i gyflawni hyn. Mae arddull hyfforddi Damian yn seiliedig ar theori ac ymchwil sy’n cael eu diweddaru’n rheolaidd, ac mae Damian yn paratoi rhaglen hyfforddi benodol ar gyfer bob cleient i’w helpu nhw gyrraedd eu nodau a’u hamcanion.

Mae Damian yn galluogi ei gleientiaid i gamu oddi wrth batrymau arferol o feddyliau negyddol, a chanolbwyntio ar eu harbenigedd, a’u caniatáu nhw i drawsnewid credoau negyddol yn rhai positif, sy’n helpu ei gleientiaid i ddod yn arweinwyr arbennig. Mae hefyd wedi gweithio gyda’r pedwar Coleg Meddygol Brenhinol a’u helpu nhw i ffurfio’r llwybrau gyrfaol gwyddonol uwch ar gyfer Ysgol Genedlaethol Gwyddor Gofal Iechyd. Yn sgil hyn, mae wedi derbyn cymeradwyaeth sylweddol gan nifer o feysydd a’i enwi’n arweinydd materion Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

 

Gair i Gall

Trafodwch heddiw er mwyn newid yfory.

Damian Joseph Bridgeman
Damian
  • Enw
    Damian Joseph Bridgeman
  • Enw'r busnes
    Executive Coaching 365
  • Rôl
    Cyfarwyddwr a Hyfforddwr
  • Lleoliad
    Bro Morgannwg