Dan Richards-Doran

Rwy’n cefnogi sefydliadau i fod yn fwy strategol yn eu cyfathrebiadau, gan weithio â hwy i adnabod eu cynulleidfaoedd a’u galluogi nhw i adrodd straeon gwych ynghylch yr hyn a wnânt.

Bûm yn rheoli cyfathrebiadau, ymgysylltiad a digwyddiadau ar gyfer sawl sefydliad blaengar y DU ers dros 15 mlynedd, yn cynnwys Prifysgol Rhydychen, Cymdeithas Gwyddoniaeth Prydain ac Informa Plc. Rwy’n ymarferydd cysylltiadau cyhoeddus achrededig gyda Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus, ac yn arbenigo ar hyn o bryd yn y gwaith o gefnogi sefydliadau sy’n canolbwyntio ar wyddoniaeth, technoleg, iechyd, amaethyddiaeth, a hyfforddiant proffesiynol.

Mae fy mhrofiad yn cwmpasu arweinyddiaeth tîm, strategaeth sefydliadol, marchnata cwrs, rheoli digwyddiadau, ymgysylltiad cymunedol, a chysylltiadau cyfryngau yn lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Yn 2021 sefydlais fy ymgynghoriaeth gyfathrebiadau fy hun ac rwyf wedi mynd i’r afael â llawer o heriau personol a gweithredol sydd ynghlwm â datblygu menter lawrydd gynaliadwy, ac yn parhau i wneud hynny.

Rwy’n cael fy ysgogi i wneud gwahaniaeth ym mhopeth a wnaf ac yn ffynnu ar wrando ar eraill a’u cefnogi nhw i wireddu a chyflawni eu nodau. Rwyf ar hyn o bryd yn hyfforddi fel hyfforddwr a mentor strategol.

DRD
  • Enw
    Dan Richards-Doran
  • Enw'r busnes
    Gweld Communications Ltd
  • Rôl
    Strategic Communications Consultant, Director
  • Lleoliad
    Sir Gaerfyrddin