Daniel James Davies
Rydw i wedi gweithio yn y diwydiant lletygarwch am dros 20 mlynedd ac wedi ennill profiad mewn safleoedd bwyd amrywiol. Roeddwn yn rhedeg caffi trafnidiaeth symudol bychan am 5 mlynedd, ac yn dilyn hynny adeiladais fwyty trwyddedig. Dros gyfnod o 11 mlynedd datblygais y bwyty i fod yn lle poblogaidd i fwyta drwy gydol y flwyddyn. Mae gen i agwedd ymarferol iawn tuag at fusnes ond rydw i hefyd yn dirprwyo tasgau er mwyn datblygu tasgau adeiladu eraill.
Erbyn hyn rydw i’n prydlesu fy mwyty er mwyn parhau i dyfu fy mhortffolio o eiddo. Mae gennym 19 o unedau gyda thenantiaid, sy’n cynnwys unedau preswyl, masnachol ac aml-osod.
Rydw i hefyd yn gogydd cymwys ac yn osodwr trydanol domestig. Mae gennyf dystysgrifau cymorth cyntaf, diogelwch bwyd, gwobr blasu gwin, deilydd trwydded bersonol, profi dyfeisiau cludadwy a thystysgrifau lletygarwch amrywiol eraill.
Rydw i’n berson sylwgar ac yn canolbwyntio ar wneud penderfyniadau busnes sy’n cynorthwyo i dyfu’r busnes a chreu mwy o elw.
Pan oeddwn yn prynu ac adnewyddu un eiddo, ymddangosais ar y rhaglen deledu ‘Homes under the Hammer’.
Rydw i’n ymweld ag arwerthiannau’n rheolaidd ac rwy’n angerddol am adnewyddu a chynnal a chadw eiddo. Oherwydd pellter, asiantwyr sy’n rheoli rhai o’n eiddo, ond rydym yn rheoli eiddo cyfagos ein hunain. Golyga hyn bod gennym Drwydded Rhentu Doeth.
Gyda nifer o fy mhrosiectau, rydw i’n edrych ar y ffigyrau i gadarnhau a yw prosiect yn un hyfyw ai peidio, a byddaf yn rheolaidd yn llunio taenlenni ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd. Rydw i’n mwynhau siarad am fusnes, taflu syniadau a chanfod gwahanol atebion i broblemau anodd.
-
EnwDaniel James Davies
-
Enw'r busnesDJME Davies Rentals
-
RôlCyfarwyddwr
-
LleoliadSir Gaerfyrddin