David James Edmonds

Meysydd arbenigedd: Mynediad at gyllid ac ariannu; cynlluniau a strategaethau ariannol; sicrhau parodrwydd ar gyfer buddsoddiad a chynnig am fuddsoddiad; mireinio potensial cynnyrch/proses; gwahaniaethu cynnyrch a phrosesau.

Cymwysterau: Yn ychwanegol at ei brofiad a chymwysterau mewn bancio, mae gan David MBA o Ysgol Fusnes y Brifysgol Agored.

Gweithgareddau cefnogi busnes presennol: Fel Rheolwr Gyfarwyddwr a Rheolwr Cronfa gydag Advantage Creative www.advantagecreative.co.uk sy'n cynnwys yr Advantage Creative Fund (ACF), cronfa cyfalaf menter ar gyfer y diwydiannau creadigol, mae David yn darparu cymorth busnes, gwasanaeth mentora a chyngor i gwmnïau sy’n cael buddsoddiad ym mhortffolio’r gronfa.

Cefndir: gyrfa gyntaf Dewi oedd 34 mlynedd gyda Banc HSBC lle bu’n arbenigo mewn Cyllid Corfforaethol a dod yn Rheolwr Ardal yn fwyaf diweddar. Cwblhaodd MBA gyda'r Ysgol Fusnes Agored ym 1996 a oedd yn cynnwys secondiad mewn tîm prosiect yn Waterford Wedgwood, ac yna ar ôl graddio cyfrannodd at wahanol brosiectau gwella busnes Prif Swyddfa HSBC. Yn 2001 daeth yn Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni gweithgynhyrchu â throsiant o £3.5 miliwn lle bu'n arwain tîm Prynu Allan Rheolwyr, ac yn gynnar yn 2002 daeth yn Rheolwr Gyfarwyddwr Dros Dro Maverick Television Ltd. Ym mis Ebrill 2003, penodwyd David yn Rheolwr Gyfarwyddwr Rheolwr Cronfa ACF. Fel llawer o fusnesau yn y Diwydiannau Creadigol, roedd ACF yn fusnes newydd sbon a thorrodd dir newydd yn y sector cyfalaf menter trwy gael ei weithredu mewn fformat rhithwir cymaint ag y bo modd. Mae sgiliau entrepreneuraidd David ei hun wedi cael eu rhoi ar brawf a'u harddangos drwy ei waith yn tyfu’r Gronfa fel tŷ cyllid bytholwyrdd llwyddiannus i gefnogi'r diwydiannau creadigol yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr. Mae David hefyd wedi darparu gwasanaethau rheoli ac ymgynghori i berchnogion busnes drwy ei fenter ei hun, Bisco Business Services ers 2010.

 

Gair i Gall

Cadwch lygad ar yr arian parod – dyna enaid y busnes

David James Edmonds
  • Enw
    David James Edmonds
  • Rôl
    Rheolwr Gyfarwyddwr a Rheolwr Cronfa
  • Lleoliad
    Ceredigion