David Royston Williams

David oedd un o wynebau niferus Vodafone am bron i ddau ddegawd gan weithio mewn sawl rôl wahanol yn cynnwys rheoli manwerthu, hyfforddiant siopau a gwella'r dewis o gynnyrch a’r gwasanaeth a gynigir i grwpiau defnyddwyr arbennig, megis y rhannol ddall. Mae wedi gweithio o Fangor i Lundain yn ystod ei yrfa ac yn 40 oed, â’i deulu’n wynebu salwch a newidiadau i'w bywydau eu hunain, cofrestrodd ar ei gwrs BA mewn Rheolaeth a Busnes.  

Roedd David wedi ceisio a llwyddo yn ei fywyd gwaith bob dydd, ond eto roedd yn teimlo ei fod angen dealltwriaeth academaidd fwy cynhwysfawr o fusnes er mwyn gallu bod yn gymwys ac yn gyson yn ei swyddi a’i ddewisiadau gyrfa yn y dyfodol.

Mae gwerthu, gwasanaethau cwsmeriaid, pobl, meddwl yn greadigol a hyfforddiant yn elfennau o’i gronfa wybodaeth graidd am ei fod wedi dangos dawn naturiol yn y meysydd hyn yn ogystal â chael hyfforddiant o'r radd flaenaf gan frand rhyngwladol o bwys (Vodafone).

Mae David wedi cael y fraint o fod mewn sefydliad sydd wedi tyfu o ddim ond ychydig gannoedd o bobl i bob pwrpas i filoedd o weithwyr cyflogedig, gyda phob un ohonynt fel pe baent yn gweithio at yr un nodau strategol.

Yr hyn sydd gan David i’w gynnig i'r rôl hon yw empathi ac mae'n ymdrechu i roi cyngor a chymorth cywir a gonest i bobl, gan ddefnyddio technegau y mae wedi’u dysgu gydol ei fywyd gwaith ac yn fwy diweddar wrth astudio ar gyfer ei Dystysgrifau Hyfforddi a Mentora ym Mhrifysgol Bangor.

Ac yntau bellach yn berchennog ei fusnes bach ei hun, busnes sy'n tyfu, yn y sector hysbysebu digidol a'r sector gwefannau sydd wedi’u hoptimeiddio ar gyfer dyfeisiau symudol, gall David nid yn unig ddeall a chydymdeimlo â’r straen a phryderon sy’n gysylltiedig â bod mewn busnes, ond mae'n gallu deall a gweld y pethau cadarnhaol yn y môr o bethau negyddol hefyd, gan nid yn unig ei atgoffa ef ei hun o’r rhesymau pam iddo ddewis gweithio i’w hunan, ond helpu eraill i weld y rhesymau hefyd.

Ydy David yn gwybod popeth am fusnes? NAC YDY siŵr! Ydy e'n addysgu ei hun bob dydd? Ydy! Mae e eisiau gweld pobl yn llwyddo ac nid arian sy’n fesur o hynny ym mhob achos. Gall fod yn ychydig oriau ychwanegol gyda'ch teulu, yn gyfle i roi cynnig ar eich syniadau eich hun, unrhyw beth rydych am iddo fod.

I ffwrdd o'r gwaith, mae David yn gerddwr brwd ac mae wedi bod yn ymwneud yn broffesiynol â hyfforddiant yn y gampfa ac iechyd a ffitrwydd ers sawl blwyddyn hefyd.

Gair i Gall

Dylai strategaeth fod fel pren fesur plastig – yn ddigon hyblyg i ymdrin â phwysau’r dasg o ddydd i ddydd, heb dorri a bod yn werth dim i neb.

David Royston Williams
  • Enw
    David Royston Williams
  • Rôl
    Perchennog
  • Lleoliad
    Conwy